Person wedi marw ar ôl achosion o orddos yn Abertawe
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi cadarnhau bod person wedi marw ar ôl cymryd dos gormodol o gyffur.
Mae swyddogion yn ymchwilio i achos y farwolaeth ar hyn o bryd.
Fe gadarnhaodd y bwrdd iechyd bod 12 achos o bobl yn cael gorddos o gyffuriau wedi eu nodi ers dydd Mercher, 7 Gorffennaf.
Daw hyn ar ôl i'r bwrdd iechyd ryddhau rhybudd brys nos Fercher ynghylch tabledi ffug sydd wedi bod ar gael yn yr ardal, wedi i nifer o bobl orfod mynd i Ysbyty Treforys ar ôl ymateb yn wael i’r cyffuriau.
Mae'r bwrdd iechyd nawr yn rhybuddio pobl i fod yn hynod o wyliadwrus wrth gymryd y cyffuriau sy’n cael eu gwerthu fel rhai sy’n trin gor-bryder.
Dywedodd y bwrdd nad yw'n glir eto beth sydd wedi achosi'r digwyddiad ac fe all fod cyffuriau eraill fod yn achosi’r un broblem.
Dywedodd Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus y bwrdd, Keith Reid: "Mae fy nghydymdeimlad â theulu a ffrindiau'r person sydd wedi marw.
"Mae'n bwysig ein bod ni'n gweld defnydd cyffuriau yn broblem iechyd cyhoeddus a chydnabod ei effaith ar unigolion a theuluoedd yn ein cymunedau.
"Mae'r nifer o achosion mewn cyn lleied o amser yn achos pryder, ac nid ydym yn gwybod hyd yn hyn pa gyffur neu gyffuriau sydd wrth wraidd yr achos.
"Felly, rydym yn annog pobl i fod yn eithriadol o ofalus. Os ydych yn defnyddio cyffuriau, plîs byddwch yn ofalus - yn enwedig os ydych wedi newid eich cyflenwr yn ddiweddar, neu wedi cael cynnig neu'n defnyddio cyffur newydd."