Newyddion S4C

Gorchymyn heddlu yn targedu ymddygiad gwrth-gymdeithasol yng Nghriccieth

13/09/2024
Heddlu Gogledd Cymru yng Nghriccieth

Mae’r heddlu wedi cael pwerau newydd i atal ymddygiad gwrth-gymdeithasol yng Nghriccieth. 

Fe fydd swyddogion Heddlu Gogledd Cymru bellach yn gallu gofyn i bobl y maen nhw’n eu hamau a allai fod yn debygol o achosi ymddygiad gwrth-gymdeithasol, neu sydd yn achosi ymddygiad gwrth-gymdeithasol, i adael yr ardal benodol dan sylw. 

Cafodd Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ei roi mewn grym mewn rhan o'r dref yn ddiweddar wedi cynnydd mewn ymddygiad gwrth-gymdeithasol yno.

Dywed y llun y bydd swyddogion ar batrôl yn y dref yn ystod y penwythnos i sicrhau bod pobl yn cadw at y gorchymyn.

Image
Criccieth

Bydd y pwerau newydd yn parhau mewn grym hyd at 17.49 ddydd Sadwrn. 

Mae’r llu wedi rhybuddio y bydd unrhyw un sydd yn gwrthod gadael yr ardal dan sylw, neu’n gwrthod ildio eitemau all gyfrannu at ymddygiad gwrth-gymdeithasol, yn cael eu herlyn. 

Maen nhw hefyd wedi rhybuddio “pobl ifanc” sydd yn ceisio “rhedeg i ffwrdd” ond sydd yn parhau yn yr ardal ble y mae gan yr heddlu bwerau newydd y byddan nhw hefyd yn cael eu herlyn. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.