Chwaraewr Cymru a rheolwr Wrecsam yn ennill gwobrau pêl-droed arbennig
Mae ymosodwr Cymru Mark Harris wedi ennill gwobr Chwaraewr y Mis ac mae rheolwr Wrecsam Phil Parkinson wedi ennill gwobr Rheolwr y Mis.
Enillodd Harris, sydd yn chwarae pêl-droed Oxford United y wobr yn y Bencampwriaeth a rheolwr Wrecsam, Parkisnon wedi ennill y wobr yn Adran Un.
Mae Harris wedi sgorio pedair gôl ym mhedair gêm agoriadol Oxford yn y Bencampwriaeth, gan gynnwys foli wych o 30 llath yn erbyn Blackburn Rovers.
Roedd yr ymosodwr, sy’n wreiddiol o Abertawe hefyd wedi ennill ei chweched cap dros Gymru yn erbyn Montenegro nos Lun.
Ar ôl ennill y wobr dywedodd yr ymosodwr ei obaith yw y bydd yn parhau i sgorio goliau.
"Mae'n wobr hyfryd iawn i'w dderbyn," meddai.
"Rydym ni wedi dechrau'r tymor yn dda fel tîm ac i fi fel unigolyn, dwi wedi dechrau'n dda yn ogystal.
"Dwi'n chwarae pob gêm yn llawn hyder gyda'r tîm yn chwarae'n dda, a gobeithio gallai barhau i sgorio."
'Pawb yn cyfrannu'
Ar ôl ennill dyrchafiad o Adran Dau mae Wrecsam wedi dechrau bywyd yn Adran Un yn gyfforddus ac yn eistedd ar frig y gynghrair.
Ennill tri a chwarae un gêm gyfartal yn erbyn Bolton Wanderers oedd eu hanes ym mis Awst- a hynny heb un o’u prif chwaraewyr, Paul Mullin oedd wedi ei anafu.
Er eu bod nhw ar frig y gynghrair, dywedodd Parkinson bod llawer mwy o waith i'w wneud i sicrhau bod nhw'n aros yn y safle hwnnw.
"Mae'n wych i dderbyn y wobr, i fi yn bersonol ond yn bwysicach i bawb; y chwaraewyr, y staff, a dwi'n golygu'r staff i gyd achos maw pawb yn cyfrannu," meddai.
"Fe allwn ni longyfarch ein hun, ond mis cyntaf y tymor yn unig sydd wedi bod hyd yn hyn ac rydym yn gwybod bod llawer mwy o waith i'w wneud.
"Ond rydym ni'n mwynhau chwarae yn y gynghrair hon, mae'n gystadleuol ac rydym ni'n chwarae ein ffordd ni."
Llun: EFL