Eric Martin a DJ Jaffa i dderbyn gwobr am eu cyfraniad i'r sîn gerddoriaeth Gymraeg
Fe fydd yr arloeswyr hip-hop Eric Martin a DJ Jaffa yn derbyn gwobr am eu cyfraniad i’r sîn gerddoriaeth yng Nghymru fel rhan o seremoni’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig fis nesaf.
Bydd y ddau Gymro yn derbyn gwobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig, a hynny yn ystod seremoni wobrwyo fydd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ar 8 Hydref.
Mae Eric Martin, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel MC Eric neu Me One, yn lleisydd, cyfansoddwr a chynhyrchydd cerddoriaeth o dras Jamaicaidd a gafodd ei eni yng Nghymru.
Dywedodd ei fod yn teimlo’n “ffodus” wedi iddo gael y profiad o fod yn rhan o sîn hip-hop “ifanc a bywiog yng Nghymru.”
Fe gyd-ysgrifennodd y glasur fyd-enwog 'Pump Up The Jam' gyda Technotronic o Wlad Belg ar ddiwedd yr 1980au.
Fe aeth yr albwm honno’n aml-blatinwm a gwerthodd dros 14 miliwn o gopïau ledled y byd yn ei blwyddyn gyntaf.
“Mae cael fy ngweld fel pwynt y mae’r tameidiau cerddorol presennol yma’n deillio ohonynt yn anrhydedd,” meddai.
Cynhyrchydd o Gaerdydd yw DJ Jaffa, sy’n cael ei adnabod hefyd fel Jason Farrell, ac mae yntau wedi bod yn rhan o’r sin gerddorol ers 1985. Mae wedi cydweithio gydag Eric Martin gan greu caneuon sy’n cymysgu reggae a hip-hop.
Dywedodd: “Mae hyn yn gymaint o anrhydedd, fyddwn i byth wedi meddwl ’nôl yn yr wythdegau y byddwn i’n dal i fod mor angerddol ag ydw i am DJio, hip-hop a cherddoriaeth ddu yn gyffredinol, yn enwedig cerddoriaeth o Gymru.”
Ymhlith cyn enillwyr y Wobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig y mae Dafydd Iwan, Meic Stevens, David Edwards a Pat Morgan o Datblygu, prif leisydd The Alarm, Mike Peters, Meredydd Evans a Phyllis Kinney.
Anrhydedd
Yn rhan o seremoni’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig bydd Gwobr Triskel hefyd yn cael ei chyflwyno i’r artistiaid newydd ADJUA, VOYA a WRKHOUSE.
Caiff Gwobr Triskel ei chyflwyno’n flynyddol yn y seremoni i dri artist gyda chefnogaeth yr elusen Help Musicians, a hynny gyda’r nod o ddarparu adnoddau ac arweiniad i artistiaid allu datblygu eu gyrfaoedd cerddorol.
Cyfansoddwr o Gymru/Ghana yw ADJUA sydd â “sain R&B indi/grynj unigryw.”
Linford Hydes ac Eddie Al-Shakarchi yw VOYA, ac mae eu cerddoriaeth nhw wedi’i ddisgrifio fel “electronica tywyll a steilus” a “phop-synth melodaidd” a cherddoriaeth ton-newydd.
Band pop-alt ydy WRKHOUSE a rheiny’n “ymhlith y genhedlaeth nesaf o artistiaid cyffrous Cymru,” meddai trefnwyr y gwobrau.
Rhestr Fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2024:
- Aleighcia Scott - Windrush Baby GWRANDO
- Angharad – Motherland GWRANDO
- Buzzard Buzzard Buzzard – Skinwalker GWRANDO
- CHROMA - Ask for Angela GWRANDO
- Cowbois Rhos Botwnnog - Mynd â'r tŷ am dro GWRANDO
- Elkka - Prism of Pleasure GWRANDO
- Georgia Ruth - Cool Head GWRANDO
- Gruff Rhys - Sadness Sets Me Free GWRANDO
- HMS Morris - Dollar Lizard Money Zombie GWRANDO
- L E M F R E C K - BLOOD SWEAT & FEARS GWRANDO
- Mellt - Dim Dwywaith GWRANDO
- Pys Melyn – Bolmynydd GWRANDO
- Skindred – Smile GWRANDO
- Slate – Deathless GWRANDO
- Ynys - Dosbarth Nos GWRANDO