Newyddion S4C

Cymru PremierJD: Aberystwyth yn teithio i'r Bala a Met Caerdydd yn herio'r Drenewydd

Sgorio 13/09/2024
Chwaraewyr Y Bala yn dathlu sgorio yn erbyn Penybont

Wedi chwe gêm gynghrair mae Pen-y-bont a Met Caerdydd yn parhau’n hafal ar bwyntiau ar y brig ac heb golli gêm y tymor hwn, ond mae’r ddau glwb yn wynebu gemau caled oddi cartref dros y penwythnos.

Gyda tair gêm wrth gefn bydd y pencampwyr, Y Seintiau Newydd yn anelu i gau’r bwlch ar y deuawd o’r de dros y penwythnos wrth iddyn nhw groesawu’r Barri i Neuadd y Parc.

A thua’r gwaelod mae’n gaddo i fod yn frwydr gystadleuol ar yr Oval pan fydd Llansawel yn gobeithio ennill eu pwyntiau cyntaf ers eu dyrchafiad, oddi cartref yng Nghaernarfon.

Y Bala (6ed) v Aberystwyth (10fed) | Nos Wener – 19:45

Ar ôl dechrau da i’r tymor mae’r Bala wedi baglu’n ddiweddar a llithro i’r 6ed safle yn dilyn rhediad o dair gêm gynghrair heb ennill (cyfartal 1, colli 2).

Mae Aberystwyth wedi taro wal hefyd ar ôl cwpl o ganlyniadau addawol, a bellach mae’r Gwyrdd a’r Duon wedi colli tair yn olynol ac yn eistedd dim ond un pwynt uwchben safleoedd y cwymp.

Mae’r Bala wedi ennill 10 o’u 12 gêm ddiwethaf yn erbyn Aberystwyth (cyfartal 1, colli 1), ac felly bydd Colin Caton yn disgwyl dim llai na thriphwynt gartref ar Faes Tegid nos Wener.

Record cynghrair diweddar:

Y Bala: ✅✅➖❌❌

Aberystwyth: ͏➖✅❌❌❌

Y Drenewydd (4ydd) v Met Caerdydd (2il) | Nos Wener – 19:45 (Yn fyw arlein)

Mae Met Caerdydd wedi cael dechrau campus i’r tymor ac mae’r myfyrwyr yn parhau’n hafal ar bwyntiau ar y brig gyda Pen-y-bont.

Hon fydd trydedd gêm oddi cartref Met Caerdydd yn olynol, ond ar ôl ennill yng Nghaernarfon a’r Bala dros y pythefnos diwethaf, bydd tîm Ryan Jenkins yn llawn hyder cyn teithio i’r canolbarth.

Enillodd Y Drenewydd dair o’u pedair gornest yn erbyn Met Caerdydd y tymor diwethaf, a’r Robiniaid yw’r tîm diwethaf i ennill oddi cartref yng Nghampws Cyncoed.

Record cynghrair diweddar:

Y Drenewydd: ͏➖❌✅❌✅

Met Caerdydd: ͏➖✅➖✅✅

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.