Cannoedd yn cofio Dewi 'Pws' Morris ar ddiwrnod ei angladd
Cannoedd yn cofio Dewi 'Pws' Morris ar ddiwrnod ei angladd
Daeth teulu a ffrindiau at ei gilydd i gofio'r cerddor, actor a'r awdur Dewi 'Pws' Morris ar ddiwrnod ei angladd ddydd Iau.
Bu farw Dewi Pws ar 22 Awst yn 76 oed yn dilyn cyfnod o salwch.
Fe gafodd gwasanaeth cyhoeddus i ddathlu ei fywyd ei gynnal yn Amlosgfa Bangor, gyda dros 600 o bobl wedi teithio o bob rhan o'r wlad i fod yn bresennol.
Fe wnaeth yr hers ymlwybro drwy bentref Nefyn tuag at Morfa Nefyn gyda degau o bobl yn cymeradwyo wrth iddi basio ar ei ffordd i Fangor ar ôl hanner dydd.
Roedd trefniant arbennig yn cynnwys rhai o glasuron Edward H. Dafis a Tebot Piws wedi ei baratoi'n arbennig ar gyfer yr achlysur gan y delynores Gwennan Gibbard, a hithau'n perfformio'r trefniant ar y delyn wrth i'r gwasanaeth ddechrau.
Roedd nifer o wynebau cyfarwydd o fyd y gân yn cymryd rhan yn y gwasanaeth, gan gynnwys Ryland Teifi, Cleif Harpwood, Pedair a Linda Griffiths.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1834226266171384040
"Mae'r teulu yn eithriadol o ddiolchgar i bawb sydd wedi dangos cardigrwydd iddyn nhw," meddai Myrddin ap Dafydd wrth agor y gwasanaeth.
"Diolch am bopeth Dewi. Diolch am Gymru gyfan am grynhoi holl liwiau ei fywyd yn y fath fodd. Mae Dewi a'i fiwsig wedi ei weu drwy ein bywydau ni i gyd."
Gyda'i gymeriad lliwgar llawn hiwmor, a’i ddawn naturiol i ddiddanu, daeth llwyddiant iddo mewn nifer o feysydd yn ystod ei fywyd.
Bu'n aelod o'r band Y Tebot Piws yn nyddiau cynnar y Sin Roc Gymraeg, ac yna fe ddaeth yn gitarydd â chanwr gydag un o fandiau mwyaf poblogaidd yn y Gymraeg erioed, Edward H. Dafis.
Cafodd y grŵp ei ffurfio yn dilyn cyfarfod yn Aberystwyth rhwng Hefin Elis a Dewi Pws.
Fe wnaeth arddull roc trwm y band, gyda chaneuon bachog mewn naws unigryw Gymreig ddod â llwyddiant ysgubol i'r aelodau yn ystod y 70au, gyda nifer o berfformiadau cofiadwy i'r cannoedd oedd yno i'w gwylio.
Enillodd Dewi Pws gystadleuaeth Cân i Gymru yn 1971 gyda'i gân ‘Nwy yn y Nen’ a chyfansoddodd y gân boblogaidd ‘Lleucu Llwyd’ – un o glasuron yr iaith Gymraeg.
Yn fwy diweddar roedd wedi chwarae gyda'r band pync-gwerin Radwm, ac fe wnaeth ymddangos ar lwyfan gyda'r band gwerin Ar Log.
Yn ogystal â mwynhau llwyddiant yn y byd cerddorol, roedd Dewi Pws yn actor amryddawn hefyd.
Ef oedd cymeriad y Brenin Ri yn yr opera roc 'Nia Ben Aur' ar lwyfan Pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerfyrddin yn 1974.
Cyfansoddwyd y caneuon gan lawer o sêr y Sîn Roc Gymraeg ar y pryd.
Chwaraeodd Dewi Pws y cymeriad Wayne Harries ar 'Pobol y Cwm' o gychwyn y gyfres boblogaidd yn 1974 hyd at 1987.
Roedd ganddo un o'r prif rannau yn y ffilm gomedi eiconig 'Grand Slam' ym 1978, ac yn yr un ddegawd, fe chwaraeodd gymeriad y Dyn Creu yn y gyfres anarchaidd i blant, 'Miri Mawr'.
Yn ystod yr 80au aeth ati i ysgrifennu a pherfformio yn y gyfres gomedi 'Torri Gwynt', gan actio nifer o gymeriadau lliwgar a chofiadwy.