Harris a Trump yn mynd benben mewn dadl deledu
Harris a Trump yn mynd benben mewn dadl deledu
Philadelphia - y ddinas sy'n cael ei galw'n grud rhyddid yw lleoliad y ddadl deledu all fod gyda'r pwysica erioed.
Dyw'r ddau ymgeisydd erioed wedi cwrdd wyneb yn wyneb o'r blaen a does 'na fawr o gariad.
"I don't think she's a bright personand our country needs a smart person."
"If you got something to say, say it to my face!"
Ers degawdau mae'r dadleuon yma'n ganolog i bennu barn yr etholwyr o'r chwys ar dalcen Nixon i oedran Bob Dole i ymosodiadau slic Donald Trump, sy 'di llwyddo yma o'r blaen.
"Awfully good that someone with the Trump's temperament is not in charge of the law."
"Because you'd be in jail."
A beth am bwysigrwydd y ddadl deledu ddwetha i ddiwedd gyrfa wleidyddol Joe Biden?
"President Trump?"
"I really don't know what he said at the end of that sentence.
"I don't think he knows either."
Mewn cornel fach o America yma yng Nghaerdydd fe fues i'n trafod y ddadl gyda dwy Americanes o ddau begwn i'r wlad.
Inge Hansen o dalaith Trump yn Efrog Newydd a Sarah Hill o California,talaith Kamala Harris.
"Falle ni'n mynd i weld rhyw theatr. Mae'n rhywbeth dramatig.
"Mae Trump yn gwybod sut i fod ar y teledu a cawn weld am Kamala.
"Gobeithio na fydd hi'n defensive a jyst yn neud i Trump edrych yn fach.
Mae Kamala wedi mwynhau tipyn o fis mêl.
Arolwg barn diweddar yn dangos bod hynna ar ben?
"Mae pobl yn dweud bod hi heb wneud digon o gyfweliadau teledu.
"Dydy pobl ddim yn nabod hi.
"Mewn ffordd, mae'r debate yn bwysig.
"Tasai hi'n cael cwpl o zingers mewn bydd hynna'n helpu ond y broblem yw bod y momentwm tu ôl i Trump a bydd e'm yn stopio."
Beth sy'n mynd i newid y farn,os rhywbeth?
"Canlyniad y ddadl fydd be sy'n digwydd ar social media.
"Y clips sy'n mynd yn viral a naratif y cyfryngau am y ddadl."
Chi'ch dwy'n cynrychioli dwy ochr i'r wlad ond ni'n son fan hyn am raniad lawr y canol.
Mae dwy wlad yn America erbyn hyn.
"Dw i'm yn deall sut mae pobl yn meddwl ie, fi isie cefnogi hwnna lle beth all ni wneud i fixio cymdeithas ac ailuno fel gwlad?
"Ar hyn o bryd mae popeth wedi torri."
"Y system yr electoral college ydy'r bai achos mae'n rhoi gormod o power i daleithiau a hynny'n gallu golygu bod Trump yn mynd i ennill.
"Hyd yn oed os bydd Kamala'n cael y bleidlais poblogaidd bydd hwnna ddim yn newid rŵan."
A ddaw'r ddadl a newid yn y gwynt?
Neu a fydd America'n para mor ranedig ag erioed?
Falle daw'r ateb o Philadelphia yn nhalaith dyngedfennol Pennsylvania.