'Dyn arbennig mewn sawl ffordd': Teyrngedau i Dai Gealy o Lanymddyfri
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gyn athro yng Nhgoleg Llanymddyfri, David ‘Dai’ Gealy, sydd wedi marw yn 86 oed.
Yn athro, hanesydd, chwaraewr a hyfforddwr rygbi, dramodydd a gwirfoddolwr, roedd Mr Gealy yn ffigwr adnabyddus yn y dref, yn ôl ei gyfaill, y Cynghorydd Handel Davies.
“Roedd e’n ddyn hyfryd, ac yn Gymro,” meddai Mr Davies, sydd yn Gadeirydd ar Gyngor Sir Gâr.
“Mae e’n enwog yn y dre am fod yn ddyn mor garedig, mor ffein, galluog ac mi oedd e’n chwaraewr rygbi dawnus hefyd. Ac mae e’n chwedlonol yng Ngholeg Llanymddyfri.”
Ar ôl ymuno â'r coleg fel athro Saesneg yn 1966, fe dreuliodd Mr Gealy dros 30 o flynyddoedd yn gweithio yn y coleg.
Cafodd ei wneud yn Noddwr am Oes gan Gymdeithas Cyn-ddisgyblion Coleg Llanymddyfri, yn gydnabyddiaeth am ei gyfraniad i'r coleg fel disgybl, athro a Hen Fachgen.
Mewn teyrnged, dywedodd datganiad gan y coleg: “Gyda tristwch mawr rydym yn cyhoeddi marwolaeth Mr David I. [Dai] Gealy, a hunodd yn heddychlon nos Lun.
“Yn ddyn o gymeriad prin a ffyddlonrwydd ddigymar, roedd Mr Gealy yn cynrychioli ysbryd Coleg Llanymddyfri yn berffaith.
“Drwy gydol ei fywyd, fe ymrwymodd yn gyfan gwbl i’r Coleg, gan adael argraff bendant ar bawb a gafodd y pleser o’i adnabod, taw hynny fel cyd-ddisgybl, meistr yr adran Saesneg, Pennaeth y Tŷ, Hyfforddwr, neu yn hen aelod o Gymdeithas Llanymddyfri.
“Fe gaiff ei absenoldeb ei deimlo’n ddwfn. Hoffwn rannu ein cydymdeimlad, meddyliau a gweddïau gyda’i deulu yn y cyfnod hwn o alaru.”
'Arbennig'
Yn wreiddiol o'r Tymbl, fe enillodd ysgoloriaeth i astudio yn y Coleg, cyn astudio Saesneg yn Nhgoleg San Edmund, yn Rhydychen.
Roedd hefyd yn chwaraewr rygbi o safon, wedi iddo gynrychioli Llanelli, Rhydychen, Cymry Llundain a Choleg Llanymddyfri, cyn hyfforddi timau yn y coleg.
Roedd Mr Gealy yn ymddiddori'n fawr mewn hanes lleol, gan ysgrifennu sawl llyfr.
Bu hefyd yn tywys ymwelwyr o gwmpas eglwys Llanfair-ar-y-bryn, i ddangos bedd y llenor William Williams Pantycelyn, ac roedd yn rhan o’r ymdrech i godi cofeb i Llywelyn ap Gruffydd Fychan yn Llanymddyfri.
Ychwanega Mr Davies: “Roedd Dai yn un o’r bobl anghyffredin yna, le ffeindiwch neb yn dweud gair gwael amdano fe; dim ond pethau da sy’n cael eu dweud. Roedd e’n helpu pobl, ac yn mynd i’r eglwys yn Llanfair-ar-y-bryn.
“Roedd shwt parch gan bobl tuag at Dai, a’i wybodaeth am hanes lleol. Roeddwn i’n cael ei help e i brofi ffeithiau a gwneud yn siŵr fy mod i’n cael pethau yn iawn.
"Mae e wedi ysgrifennu llyfrau hefyd. Roedd yn ddyn arbennig mewn sawl ffordd.”
Roedd yn briod i’w wraig, Enid, yn dad i dair merch ac yn dad-cu.
Lluniau: Coleg Llanymddyfri / David Wynne Jones