Euogfarnau Lucy Letby 'ddim i gael eu trafod mewn ymchwiliad i'w hachos'
Mae Cadeirydd Ymchwiliad Thirlwall wedi dweud na fydd euogfarnau'r llofrudd plant Lucy Letby yn cael eu trafod yn y gwrandawiad, gan nodi fod yr amheuon sy'n ymledu am ddilysrwydd y dyfarniadau yn ei herbyn wedi achosi "poen difrifol" i rieni'r plant a fu farw.
Mae Letby yn treulio gweddill ei hoes mewn carchar ar ôl iddi gael ei dyfarnu'n euog o lofruddio saith o fabanod ac o geisio llofruddio saith arall, wedi dau achos llys.
Roedd pump o'r babanod yn dod o Gymru.
Roedd y ddynes 34 oed o Henffordd yn gweithio ar uned babanod newydd-anedig Ysbyty Countess of Chester rhwng Mehefin 2015 a Mehefin 2016 pan ddigwyddodd y llofruddiaethau.
Wrth agor yr ymchwiliad yn Lerpwl ddydd Mawrth, dywedodd y Fonesig Ustus Thirlwall fod Y Llys Apel wedi gwrthod apêl Letby, a bod hynny wedi arwain at ddamcaniaethu am yr euogfarnau.
Ychwanegodd bod yr amheuon hynny, yn ei barn hi wedi eu codi gan bobl na fu yn achos llys Lucy Letby.
Dywedodd fod y "sŵn" hwnnw wedi achosi "poen meddwl difrifol ychwanegol" i rieni'r babanod.
Allitt
Ar ddechrau'r gwrandawiad hefyd cyfeiriwyd at achos Beverley Allitt, y nyrs a gafwyd yn euog o bedwar achos o lofruddiaeth, tri o geisio llofruddio a chwe chyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol i blant yn 1991.
"25 mlynedd yn ddiweddarach, fe laddodd nyrs arall yn gweithio mewn ysbyty arall fabanod yn ei gofal a niweidio eraill,' meddai Rachel Langdale KC.
Dywedodd Ms Langdale y bydd yr ymchwiliad yn clywed gan uwch ddarlithydd nyrsio plant ym Mhrifysgol Caer, lle cymhwysodd Letby yn 2011. Mae'r darlithydd wedi dweud fod achos Beverley Allitt wedi bod yn rhan o'r hyfforddiant yn y sefydliad hwnnw ar y pryd.
Ychwanegodd Ms Langdale na fydd yr ymchwiliad yn ystyried pam y cyflawnodd Letby'r troseddau.
“Ar gyfer bobol gyffredin, da, mi fydd gweithredoedd Letby y tu hwnt i eiriau.
"Fyddwn ni ddim yn gwahodd unrhyw ddamcaniaethau gan dystion, am ei chymhelliad na'i chyflwr meddwl,” meddai.
Bydd yr ymchwiliad yn bwrw golwg ar brofiadau rhieni'r babanod, ymddygiad eraill oedd yn gweithio yn yr ysbyty a'r diwylliant a dulliau rheoli yn y Gwasanaeth Iechyd yn ehangach.
Prif amcanion yr Ymchwiliad yw ceisio atebion i deuluoedd y dioddefwyr a sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu.
Mae disgwyl i adroddiad gael ei gyhoeddi ar ddiwedd yr Ymchwiliad.