'Siom' ymgyrchwyr dros ddiffyg arwyddion Gwyddeleg yng ngorsaf drenau newydd Belfast
Mae gobaith am “ddatrysiad” wedi i ymgyrchwyr iaith fynegi eu siom ynglŷn â diffyg arwyddion Gwyddeleg mewn gorsaf bysiau a threnau newydd ym Melfast.
Dywedodd grŵp An Dream Dearg eu bod yn "hynod siomedig" gyda diffyg arwyddion dwyieithog Saesneg a Gwyddeleg yng ngorsaf newydd y ddinas, sydd bellach yr hwb trafnidiaeth gyhoeddus fwyaf ar ynys Iwerddon.
Fe wnaeth y grŵp alw'r adeilad newydd yn "fonolith uniaith newydd sydd wedi costio sawl miliwn o bunnoedd".
Mae’r cwmni Translink, sydd yn gyfrifol am yr orsaf a’r arwyddion, wedi amddiffyn y penderfyniad i beidio â chynnwys arwyddion Gwyddeleg, gan ddweud y bydd yr iaith yn ymddangos ar "arwydd aml-iaith i groesawu teithwyr".
Wrth agor yr orsaf yn swyddogol ddydd Llun, dywedodd Gweinidog Isadeiledd Gogledd Iwerddon, John O’Dowd dros Sinn Fein, ei fod “hyderus y gallwn ganfod datrysiad”.
“Rwy’n siomedig nad ydym wedi dod i benderfyniad ar hynny eto,” meddai Mr Dowd.
“Mae’n bwysig bod yr iaith Wyddeleg yn weladwy. Mae gan Belfast gymuned Wyddelig lewyrchus felly mae’n bwysig bod gennym ni welededd yr iaith.
“Rwy’n gweithio gyda Translink ar hynny ac rwy’n hyderus y byddwn yn dod o hyd i ateb.
Ychwanegodd: “Rwy’n hyderus y bydd hyn yn cael ei ddatrys yn llwyddiannus a byddwn yn gweld mwy o amlygrwydd i’r Wyddeleg yn yr adeilad hwn ac adeiladau cyhoeddus eraill.”
Mae disgwyl y bydd gorsaf Grand Central yn cynnal 20 miliwn o deithiau bob blwyddyn.
Mae’r cynllun wedi derbyn beirniadaeth gan rai ynglŷn â’r gost, sydd wedi cynyddu i £340 miliwn erbyn iddo gael ei gwblhau.
Llun: PA