Newyddion S4C

Cyhoeddi manylion cofeb newydd i’r Frenhines Elisabeth II dwy flynedd wedi iddi farw

07/09/2024
Y Frenhines

Bydd cofeb i'r Frenhines Elisabeth II yn cael ei hadeiladu ynghanol Llundain nid nepell o Balas Buckingham, meddai’r Prif Weinidog Keir Starmer dydd Sadwrn.

Daw’r cyhoeddiad ar drothwy nodi dwy flynedd ers marwolaeth y Frenhines ddydd Sul.

Bu farw’r frenhines a deyrnasodd am 70 mlynedd yng Nghastell Balmoral yr Alban ar Fedi 8 2022 yn 96 oed. Daeth Charles III yn Frenin yr un diwrnod.

Dywedodd Syr Keir y bydd cofeb genedlaethol newydd er anrhydedd i Elisabeth II yn sefyll ym Mharc St James yng nghanol Llundain.

Bydd yn sicrhau fod yna “le i bawb anrhydeddu’r diweddar Frenhines a chysylltu â’r hanes yr ydym ni'n ei rannu a'i drysori,” meddai.

Cafodd y safle ei ddewis oherwydd ei agosrwydd at lwybr seremonïol The Mall, a Phalas Buckingham.

Bydd penseiri, artistiaid a dylunwyr yn cael eu gwahodd i gyflwyno cynigion yn ddiweddarach eleni ar gyfer y gofeb.

Bydd cyhoeddi’r dyluniad terfynol yn cyd-fynd â’r hyn a fyddai wedi bod yn flwyddyn pen-blwydd y Frenhines yn 100 oed yn 2026.

Dywedodd cyn-ysgrifennydd preifat y cyn Frenhines, yr Arglwydd Janvrin, sy’n gadeirydd Pwyllgor Coffa’r Frenhines Elisabeth: “Mae The Mall a Pharc St James wrth galon ein prifddinas ac yn agos at gymaint o ddigwyddiadau ym mywyd y diweddar Frenhines.

“Mae’n safle teilwng i’r gofeb genedlaethol er anrhydedd iddi er mwyn cofio a dathlu ei chyfraniad rhyfeddol i’n bywydau trwy gydol ei theyrnasiad hir.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.