Corws Opera Cenedlaethol Cymru i gynnal dwy streic
Bydd corws Opera Cenedlaethol Cymru yn mynd ar streic yn sgil anghydfod dros swyddi a chyflogau.
Daeth y cyhoeddiad gan undeb Equity ddydd Gwener.
Bydd y corws yn streicio ar 21 Medi (noson agoriadol Rigoletto), 29 Hydref (Il Trittico) a 11 Hydref (Ffefrynnau Opera Yn Y Ffilmiau).
Bydd mathau eraill o weithredu diwydiannol yn cael eu cynnal rhwng 21 Medi a 6 Rhagfyr.
Daw'r cyhoeddiad ar ôl i 93% o'r corws bleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol ddydd Iau.
Yn ôl Equity, mae'r cerddorion yn wynebu colli tua 15% o'u cyflogau, gyda chytundebau llawn amser yn cael eu cwtogi i ryw 45 wythnos y flwyddyn.
Dywedodd Paul W Fleming, Ysgrifennydd Cyffredinol Equity, nad oedd y penderfyniad yn un hawdd.
“Nid yw cantorion yn barod i gael eu taflu o’r neilltu mewn cynigion rheoli a fyddai’n niweidio’r eicon diwylliannol Cymreig hwn yn drychinebus," meddai.
“Mae angen i Opera Cenedlaethol Cymru sylweddoli bod y corws yn ased allweddol a dod i’r bwrdd trafod fel y gallwn gytuno ar ffordd ymlaen sy’n gweithio i Opera Cenedlaethol Cymru, y corws a chynyrchiadau’r dyfodol.”