Newyddion S4C

Carcharu dyn o Abertawe am 10 mlynedd am smyglo saith o bobl i'r DU mewn fan

06/09/2024
 Anas Al Mustafa

Mae dyn o Abertawe wedi’i garcharu am 10 mlynedd am smyglo saith o bobl i'r DU mewn fan.

Cafwyd Anas Al Mustafa, 43, yn euog o gynorthwyo mudo anghyfreithlon ar ddiwedd achos llys fis diwethaf yn Llys y Goron Lewes.

Clywodd y rheithgor yn yr achos fod chwe dyn ac un ddynes wedi cael eu hamddifadu o ocsigen a dŵr yn ystod y daith.

Cafodd un dyn drawiad posibl ar y galon, cafodd un fenyw anaf difrifol i'w harennau, ac fe wnaeth dyn arall ddioddef strôc.

Roedd Anas Al Mustafa, sy'n wreiddiol o Syria ac yn dad i ddau o blant, wedi gwadu ei fod yn gwybod eu bod yn y cerbyd.

Roedd wedi smylglo’r saith o bobol  ar long rhwng Dieppe yn Ffrainc, a Newhaven, Dwyrain Sussex.

Roedd aelodau o griw’r llong Seven Sisters wedi clywed pobl yn galw am help o du mewn i fan yn ystod y daith, ac wedi defnyddio bwyell i dorri'r wal ffug oedd yn cuddio’r bobl y tu mewn i’w rhyddhau.

Roedd dau o’r mewnfudwyr yn anymwybodol erbyn iddyn nhw gael eu hachub am 9.20, ac fe gafodd y grŵp i gyd eu cludo i’r ysbyty a chael triniaeth.

‘Trasig’

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Christine Laing fod “diogelwch y wlad hon a phawb sydd yma yn dibynnu ar wybod pwy sy'n byw ynddi.

“Mae pobl heb obaith yn barod i fentro eu bywydau i ddod i’r DU, yn aml gyda chanlyniadau trasig," meddai.

“Maen nhw’n cael eu hecsbloetio gan y rhai sy’n elwa o’r fasnach hon ac yn talu fawr ddim sylw i’w diogelwch.”

Ychwanegodd ei bod yn “fodlon nad gyrrwr yn unig” oedd Anas Al Mustafa a’i fod wedi chwarae rhan weithredol wrth smyglo’r bobl.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.