Newyddion S4C

Cynllun am dai fforddiadwy ym Mhen Llŷn yn 'codi pryder am y Gymraeg'

Cynllun am dai fforddiadwy ym Mhen Llŷn yn 'codi pryder am y Gymraeg'

Pentre tawel ym mhen draw Llŷn.

Dyma Botwnnog.

Sut le yw Botwnnog?

Mae'n dawel ac yn hyfryd.

"Mae'n lle tawel braf a phawb ynghyd efo'i gilydd."

Mae'r iaith, y gymuned, amaeth yn elfennau creiddiol i'r ffordd o fyw.

Ond yng nghanol y pentre, dyma gae sy'n destun ffrae gyda datblygwyr eisiau codi 18 o dai fforddiadwy yma.

Mynnu mae'r cyngor cymuned nad oes angen ac yn bwysicach, nad yw'n addas.

Cafoch chi'ch geni yma.

Wedi byw yma mwy neu lai ar hyd ei hoes dweud mae Elen Thomas bod opsiynau gwell ar gael.

"Mae tai draw fan'cw yn wag.

"Mae tri yn wag.

"Be maen nhw'n gweud?

Eisiau gwerthu nhw i bobl lleol?"

Rhentu i bobl lleol.

"Dibynnu faint maen nhw'n mynd i godi am y rhent.

"Clywed bod nhw'n ddrud ofnadwy."

Yn ôl y cais cynllunio, fyddai'r 18 tŷ yn rhai rhent cymdeithasol gyda'r opsiwn o blith rhai i'w prynu'n ddiweddarach.

Ond â'r stad yng nghanol y pentref, mae'r cyngor cymuned yn poeni ac wedi gwrthwynebu'r cais.

Dweud maen nhw nad oes digon o alw yn lleol am dai o'r math hyn ac y byddai'n or-ddatblygiad i ardal mor fach.

Gan drafod yr iaith, heb sicrwydd y byddent yn cael eu clustnodi i siaradwyr Cymraeg yn unig, nad oedd modd cefnogi'r cais.

Ac eto, i bobl fel Elgan sy'n byw a gweithio ym Mhen Llŷn mae'n glir fod 'na angen ond taro cydbwysedd sy'n bwysig.

"Mae'n brofiad anodd a lot o deulu'n chwilio am dai...

"..ond mae'n dasg amhosibl.

"Mae angen y lle iawn ac efallai nid yma ydy'r lle gorau.

"Mae caffi, ysgol, meddygfa fach ond bydd e'n dod â phroblemau...

"..gymaint o dai mewn ardal bach."

Mae rhai hefyd yn gofyn i ddiffinio beth yn union ydy tai i bobl leol.

"Rhaid edrych ar y polisi cyfredol yn y cynllun datblygu lleol...

"..sy'n dweud bod lleol yn cynnwys pobl sydd eisiau tai yng Ngwynedd...

"..nid yn unig y bobl sy'n byw yn yr ardal yna."

Os yn cael eu cymeradwyo, byddai'r tai yn dai rhent.

Mae'r gwrthwynebiad gan y cyngor cymuned yn arwydd o'r ddadl ehangach.

Oes, mae angen am dai ar draws yr ardal.

Eto, wrth leoli mewn un lle, mae 'na boeni am or-ddatblygu.

"Dyw e ddim yn grêt achos mae gennym broblem sewerage yn y pentref.

"Mae tŷ ni yna a bydd y tai tu ôl i ni so bydd privacy ni'n mynd."

"Dw i 'di bod yn trio cael tŷ fy hun a ges i dŷ trwy Tai Teg...

"..yn y Ffôr, ond o'dd y broses yn rili anodd."

Bydd penderfyniad am ffawd y cynllun yma prynhawn Llun wrth i Gyngor Gwynedd gyfarfod i drafod.

Mae'r her i gydbwyso'r angen am dai a gwarchod naws ardaloedd unigryw Llŷn yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.