Newyddion S4C

Wrecsam: Carchar i ddyn wnaeth ddwyn o orsaf betrol gyda 'dryll'

05/09/2024

Wrecsam: Carchar i ddyn wnaeth ddwyn o orsaf betrol gyda 'dryll'

Mae dyn 23 oed wnaeth ddwyn nwyddau gwerth dros £1,000 o orsaf betrol a bygwth gweithiwr gyda 'dryll' wedi ei garcharu am dair blynedd.

Fe wnaeth Corey Li o Rodfa Tudur yn Rhostyllen, Wrecsam ac un person arall ladrata o'r orsaf petrol oedd 350 llath o'i gartref yn oriau mân y bore ar 9 Mehefin.

Saethodd y dryll - a oedd mewn gwirionedd yn ddryll awyr - yn yr orsaf a bygwth gweithiwr i agor y til siopa.

Fe wnaeth o ddwyn £85 mewn arian parod a gwerth dros £1,000 o e-sigarétau a thybaco cyn gadael.

Ymddangosodd o flaen Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Iau i'w gael ei ddedfrydu wedi iddo gyfaddef i gyhuddiad o ladrata mewn gwrandawiad cynt.

Cafodd ei garcharu am dair blynedd a naw mis.

Nid yw'r heddlu eto wedi adnabod yr ail berson fu'n rhan o'r lladrad.

'Profiad brawychus'

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Andrew Vaughan, sydd yn ymchwilio i'r digwyddiad bod cymuned Wrecsam yn fwy diogel gyda Corey Li yn y carchar.

"Roedd hwn yn brofiad brawychus a gofidus i'r dioddefwr, a gafodd ei fygwth gan ddyn â dryll tra oedd yn gweithio," meddai.

"Mae digwyddiadau fel hyn yn brin iawn yn Wrecsam, ond does dim amheuaeth bod Wrecsam yn gymuned fwy diogel gyda Li yn y carchar."

Mae'r ymchwiliad i ddarganfod yr ail berson oedd yng nghwmni Li yn parhau.

"Nid yw hunaniaeth yr ail berson yn hysbys ac rydym yn parhau i ofyn i rywun sydd â gwybodaeth allai fod o help gyda'n hymholiadau i gysylltu gyda ni," meddai'r Ditectif Gwnstabl Vaughan.

"Fe allwch chi gysylltu 'da ni trwy ddyfynnu'r cyfeirnod 24000511887 neu drwy gysylltu â Taclo'r Tacle."

Llun: Heddlu Gogledd Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.