Newyddion S4C

Trafnidiaeth Cymru am werthu danteithion i gŵn ar eu trenau

05/09/2024
Ci ar y tren

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn dechrau gwerthu danteithion i gŵn ar eu trenau.

Y nod yw annog pobl i ymweld a rhannau o’r wlad sy’n lefydd da i fynd â’r ci am dro.

Bydd y bwydlen danteithion cŵn newydd ar gael ar wasanaethau rheilffordd penodol sy'n rhedeg rhwng gogledd a de Cymru.

“Teithio ar y trên yw'r ffordd ddelfrydol o grwydro Cymru a thu hwnt, gyda'ch ci ffyddlon wrth eich ochr,” meddai’r cwmni.

Dywedodd Piers Croft, Cyfarwyddwr ar drenau Trafnidiaeth Cymru bod modd cyrraedd “cymaint o ardaloedd prydferth yng Nghymru a'r Gororau gan ddefnyddio gwasanaethau TrC.

“Rydym yn falch iawn o gael croesawu'r teulu cyfan, gan gynnwys yr aelodau hynny sydd â phedair coes, ar ein trenau,” meddai.

Fe fyddwn nhw’n cydweithio gyda chwmni byrbrydau cŵn Dewkes er mwyn darparu’r danteithion.

Fe wnaeth Duke, Mascot Brand ac Arbenigwr Rheoli Ansawdd y cwmni, fwynhau diwrnod allan ar y trên.

Dywedodd James Bygate, Rheolwr Gyfarwyddwr Dewkes mai’r nod oedd “darparu byrbrydau sy’n faethlon ac yn iachus i gŵn cymdeithasol sy’n teithio ar hyd a lled y wlad”.

Bydd y danteithion ar gael ar wasanaethau Abertawe - Manceinion a Chaerdydd – Caergybi, meddai Trafnidiaeth Cymru.

Bydd cwsmeriaid sy'n teithio ar y trên yn gallu sganio cod QR ar eu sedd, dewis o'r ddewislen ac yna bydd gwesteiwr cwsmeriaid yn gwneud y gweddill.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.