Newyddion S4C

O Syria i Gaerdydd: Gwobr i athrawes ar ôl ffoi i Gymru o'r rhyfela yn ei mamwlad

04/09/2024
Inas Alali

Mae athrawes a wnaeth ffoi’r rhyfel yn Syria gyda’i dau blentyn yn dilyn marwolaeth ei gŵr eisiau annog pobl mewn sefyllfaoedd tebyg i “barhau i symud ymlaen” wedi iddi ennill gwobr genedlaethol. 

Fe wnaeth Inas Alali a’i theulu fudo i Gaerdydd yn 2019 trwy raglen ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig. 

A hithau wedi bod yn y maes addysg yn ei mamwlad “annwyl” ers 16 mlynedd, mae Ms Alali bellach wedi ennill gwobr arbennig yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2024 am ei hymrwymiad i’w gyrfa. 

“Ar ôl marwolaeth fy ngŵr a dechrau'r rhyfel, roedd fy mywyd, a bywydau fy mhlant, dan fygythiad," meddai. 

Mae'r gwrthdaro yn Syria wedi lladd mwy cannoedd o filoedd o bobl yn ystod yr 12 mlynedd ddiwethaf, gyda miliynau yn fwy wedi’u dadleoli. 

Wedi iddi a’i theulu gael eu gorfodi i ffoi o'u mamwlad, mae Ms Alali eisiau i bobl sydd wedi wynebu sefyllfa debyg wybod “nad yw’n ddiwedd y byd.”

“I bawb sydd wedi’u gorfodi gan amgylchiadau allanol i newid eu bywyd a symud i wlad arall: nid yw'n ddiwedd y byd a gallwn barhau i symud ymlaen a rhoi popeth sydd gennym heb osod rhwystrau i'n cynnydd.”

'Dewr'

Mae Ms Alali yn un o 12 o enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2024 gan ddod i'r brig yn y wobr Grffennol Gwahanol: Dyfodol i’w Rannu. 

Bydd noson wobrwyo arbennig yn cael ei chynnal yng Ngwesty'r Coal Exchange yng Nghaerdydd ar 10 Medi. 

Daw ei buddugoliaeth yn sgil ei hymrwymiad i’r byd addysg. Fel athrawes o dramor, roedd yn rhaid i Ms Alali gwblhau cwrs ar gyfer Tystysgrif Proffesiynol i Raddedigion mewn Addysg, Addysg Ôl-orfodol a Hyfforddiant (TAR PCET), cyn iddi allu dysgu yn y DU. 

Cyn iddi gwblhau’r cwrs ym Mhrifysgol Met Caerdydd, fe ymgymerodd Ms Alali â dwy flynedd o waith addysgu gwirfoddol i wella ei Saesneg hefyd – a hithau eisoes gyda gradd Saesneg ail-iaith. 

Image
Inas Alali

Leanne Davies oedd tiwtor ei chwrs yn y brifysgol, ac fe ddisgrifiodd Ms Alali fel person “mor ddewr.”  

"Roedd hi’n gadarnhaol trwy’r amser ac ymgysylltodd â llawer o diwtorials a mecanweithiau cymorth i wella'i hun yn barhaus a chyrraedd y safon broffesiynol angenrheidiol i addysgu mewn addysg ôl-16," meddai.  

Er mwyn cefnogi ei theulu a thalu am eu llety, roedd gan Ms Alali ddwy swydd rhan-amser, gan gynnwys dysgu Arabeg yng Nghanolfan Arabeg Fayza, tra'n parhau i astudio. 

Gyda chymorth ei mentoriaid, mae hi wedi cwblhau ei horiau addysgu ffurfiol i gymhwyso ac mae bellach yn dysgu mathemateg i oedolion yn ACT Training, wrth barhau i addysgu Arabeg yn rhan-amser.

Wrth iddi edrych ymlaen at seremoni wobrwyo’r gwobrau'r wythnos nesaf, dywedodd Ms Alali bod ei “llawenydd yn annisgrifiadwy.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.