Newyddion S4C

Rhybudd melyn am law i ganolbarth a de Cymru

04/09/2024
Caerdydd yn y glaw / map o rybudd melyn am law i dde a chanolbarth Cymru

Mae rhybudd melyn am law i nifer o siroedd yn ne a chanolbarth Cymru dros y ddau ddiwrnod nesaf.

Bydd y rhybudd yn dod i rym am 21:00 nos Fercher ac yn parhau tan 23:45 ddydd Iau.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai hyn arwain at lifogydd ac amseroedd teithio hirach.

Mae siawns fach hefyd y gallai cartrefi a busnesau ddioddef llifogydd, medden nhw.

Fe allai rhai ardaloedd weld 20-40mm o law yn disgyn mewn cyfnod o awr neu ddwy, a hyd at 50-60mm yn bosib mewn rhai mannau.

Erbyn nos Iau fe all 80-100mm o law ddisgyn mewn rhai ardaloedd.

"Rhowch y cyfle gorau i chi'ch hun osgoi oedi trwy wirio amodau'r ffyrdd os ydych chi'n gyrru, neu amserlenni bysiau a threnau, gan addasu eich cynlluniau teithio os oes angen," meddai llefrydd ar ran y Swyddfa Dywydd.

"Byddwch yn barod i rybuddion tywydd newid yn gyflym, mae’r Swyddfa Dywydd yn argymell eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ragolygon y tywydd yn eich ardal pan rydym yn cyhoeddi rhybuddion."

Bydd y rhybudd mewn grym i'r siroedd isod:

  • Blaenau Gwent
  • Bro Morgannwg
  • Caerdydd
  • Caerffili
  • Casnewydd
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Ceredigion
  • Merthyr Tudful
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Sir Benfro
  • Sir Fynwy
  • Sir Gaerfyrddin
  • Torfaen

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.