Michael Sheen yn datgelu sut aeth ati i chwarae rhan y Tywysog Andrew
Mae'r actor Michael Sheen yn chwarae cymeriad y Tywysog Andrew mewn drama newydd, ac mae e wedi bod yn egluro sut yr aeth ati i baratoi ar gyfer y rhan.
Bydd A Very Royal Scandal yn cael ei rhyddhau ar Amazon Prime Video ar 19 Medi.
Mae tair pennod o'r gyfres sydd yn seiliedig ar gyfweliad Dug Efrog gydag Emily Maitlis ar raglen BBC Newsnight yn 2019. Yn y cyfweliad hwnnw fe wrthododd gyhuddiadau Virginia Giuffre ei fod wedi ymosod yn rhywiol arni pan roedd yn ei harddegau.
Wrth siarad ar bodlediad The News Agents dywedodd y Cymro ei fod eisiau i bobl ddychmygu sut bydden nhw'n teimlo pe bai nhw yn sefyllfa'r tywysog.
"Dwi'n meddwl yr hyn sydd yn gwneud drama dda yw os yw'r gynulleidfa'n gallu dychmygu eu hunain yn sefyllfa'r cymeriad," meddai.
"Dydw i ddim yn meddwl bod drama dda yn gofyn i'r gynulleidfa gydymdeimlo gyda'r cymeriad hwnnw yn y bôn, ond rydych chi eisiau iddyn nhw ddychmygu sut beth yw bod yn y sefyllfa honno.
"Dydw i ddim yn mynd i chwarae triciau neu wneud unrhyw beth i gael pobl i hoffi'r cymeriad, ond fy nghyfrifoldeb yw dangos y pethau drwg amdano hefyd."
'Penderfynu ar ei weithredoedd'
Mae’r Tywysog Andrew yn gwadu unrhyw honiad yn ei erbyn. Yn 2022 fe dalodd filiynau o bunnoedd i Ms Giuffre i setlo achos sifil gan ddweud nad oedd erioed wedi ei chyfarfod.
Dywedodd Mr Sheen bod angen iddo benderfynu beth oedd y tywysog wedi gwneud a heb ei wneud, ond nid oedd wedi datgelu’r union fanylion wrth unrhyw un.
"Dwi wedi gorfod gwneud penderfyniad - beth roeddwn i'n meddwl yr oedd e wedi ei wneud neu heb ei wneud - ond 'dw i erioed wedi dweud wrth unrhyw un beth oedd hynny.
"Dwi wedi dweud wrth Julian Jarrold, y cyfarwyddwr, pan oedden ni'n ffilmio golygfeydd penodol, bod fi mynd i wneud golygfa sydd yn cyfleu pethau'r ffordd yma, a dwi am wneud un arall sydd yn cyfleu pethau'n wahanol eto.
"Roeddwn i'n gwybod bod angen i mi newid pethau yn fy mhen, ond doeddwn i ddim yn newid beth roeddwn i'n meddwl oedd yn digwydd yn ei fywyd."
Fe wnaeth y Tywysog Andrew ddychwelyd o Ynysoedd y Falklands yn 1981 yn ei wisg filwrol, ac mae llun ohono gyda rhosyn yn ei geg.
Roedd yr actor o Bort Talbot wedi ceisio dychmygu sut newidiodd ei fywyd o'r foment honno i'r diwrnod presennol.
"Fy ffordd i o ymgorffori'r cymeriad oedd gweld y lluniau ohono yn dychwelyd o'r Falklands a'i weld yn ei wisg.
"Mae miloedd o ferched yn sgrechain yn y dorf, mae ganddo rosyn yn ei geg, ef yw'r arwr ac mae ar ei orau.
"Wrth weld hynny roeddwn i'n meddwl sut beth oedd mynd o'r foment honno, sut oedd hynny'n teimlo o gymharu â sut mae'n teimlo nawr, sut oedd y daith honno."
Llun: Amazon Prime Video