'Cyffro' yn Y Barri wrth i sêr Gavin and Stacey ddychwelyd i ffilmio
Mae perchennog siop amlwg ar Ynys y Barri wedi dweud fod yna “gyffro” yn y dref wedi i sêr Gavin and Stacey ddychwelyd i’r ardal er mwyn ffilmio pennod olaf y gyfres.
Cyhoeddodd y BBC ddydd Llun bod y gwaith ffilmio ar gyfer y bennod olaf wedi dechrau, gyda disgwyl i'r rhaglen gael ei darlledu ar ddiwrnod Nadolig 2024.
Ac mae perchennog siop hufen ia, Scoop, ar Ynys y Barri wedi dweud bod y cyhoeddiad hwnnw wedi creu cyffro – yn enwedig wedi i James Corden, sef cyd-ysgrifennwr y gyfres sy’n chwarae rhan Smithy, ymweld â’i siop.
“O ystyried lleoliad y siop, ‘dyn ni bron a bod wedi bod yn rhan o’r set,” meddai Laura Davenport ddydd Mawrth.
“Fe wnaethon ni chwifio’n wyllt at James er mwyn ei ddenu i’r siop. Mae’n rili lyfli, ac roedd e’n gofyn am y siop gan ddweud ei fod yn rili annwyl, yn rili gwahanol.
“Roedd e’n grêt, ‘gath e gwpwl o luniau gyda ni – mae un o’r merched sy’n gweithio yma yn bobydd felly fe gafodd ef un o’i brownies hefyd.
“Mae wedi bod yn ddiwrnod arbennig,” meddai.
Dywedodd ei bod yn gobeithio y bydd Scoop yn serennu yng nghefndir y bennod fydd yn cael ei ddarlledu ddiwrnod y Nadolig.
“’Dyn ni’n rili cyffrous bod yna botensial o fod ar y teledu!”
Llun: Laura Davenport/PA Wire