Newyddion S4C

Mam Peter Connelly, 'Babi P' yn ôl yn y carchar

03/09/2024
Tracey Connelly / Baby P

Mae Tracey Connelly, mam y bachgen a oedd yn cael ei adnabod fel Babi P, yn ôl yn y carchar ddwy flynedd ers iddi gael ei rhyddhau.

Mae hi wedi torri amodau ei thrwydded.

Cafodd Connelly ei harestio yn 2007 ar ôl i'w mab 17 mis oed Peter farw ar ôl dioddef camdriniaeth gan ei phartner, Steven Barker, a'i frawd Jason Owen dros gyfnod o wyth mis yng ngogledd Llundain.

Fe gafodd ei charcharu yn 2009 am achosi neu ganiatáu marwolaeth ei phlentyn, a chafodd ei dedfrydu i leiafswm o bum mlynedd o dan glo, cyn cael ei rhyddhau yn 2013.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, fe gafodd y ddynes sydd bellach yn ei 40au ei charcharu unwaith yn rhagor, am dorri amodau ei pharôl cyn cael ei rhyddhau ym mis Gorffennaf 2022.

Wedi iddi gael ei galw yn ôl i'r carchar ddydd Mawrth, dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf: “Mae troseddwyr sy’n cael eu rhyddhau ar drwydded yn gorfod cydymffurfio ag amodau llym ac nid ydym yn oedi cyn eu galw’n ôl i’r carchar os ydyn nhw’n torri’r rheolau.”

Bydd yn rhaid i Connelly wynebu’r Bwrdd Parôl eto ar ddyddiad arall er mwyn ystyried a oes modd ei rhyddhau unwaith yn rhagor.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.