Brad Young o'r Seintiau Newydd yn arwyddo i glwb yn Saudi Arabia
Mae ymosodwr y Seintiau Newydd Brad Young wedi arwyddo cytundeb i chwarae gyda chlwb yn Saudi Arabia.
Bydd Young, sy'n 21 oed, yn gadael y clwb yng Nghroesoswallt i fynd i chwarae i glwb Al-Orobah.
Dyma'r y taliad trosglwyddo mwyaf yn hanes cynghrair y Cymru Premier JD, sef £190,000
Y tymor diwethaf fe sgoriodd Young 29 gôl mewn 35 ymddangosiad ym mhob cystadleuaeth i helpu'r Seintiau Newydd i ennill Uwch Gynghrair Cymru a Chwpan y Gynghrair, yn ogystal â sicrhau’r Esgid Aur yng ngwobrau chwaraewr ifanc y tymor yr adran.
Ymunodd Young ag Aston Villa pan yn fachgen wedi iddo gael ei ryddhau gan West Bromwich Albion pan oedd yn 12 oed.
Aeth ar fenthyg i Carlisle United cyn ymuno ag Ayr United yn yr Alban am gyfnod.
Cafodd ei ryddhau gan Villa y llynedd cyn i Exeter City ddangos diddordeb ynddo.
Ymunodd â'r Seintiau Newydd yn ddiweddarach.
Inline Tweet: https://twitter.com/ALOROBAH_EN/status/1830578323027562866
Llun: Sgorio