Newyddion S4C

Oasis: Llywodraeth y DU i graffu ar gwmnïau sy'n codi prisiau tocynnau

02/09/2024
Oasis

Mae gweinidogion San Steffan eisiau craffu ar gwmnïau tocynnau sydd yn codi eu prisiau yn ôl y galw, wedi beirniadaeth am gost tocynnau Oasis ddydd Sadwrn. 

Yn ol Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth y DU, Lisa Nandy mae'r drefn o godi prisiau tocynnau yn ôl y galw yn “hynod o ddigalon”. Dywedodd y byddai codi prisiau tocynnau yn cael ei ystyried fel rhan o adolygiad i’r farchnad o ail-werthu tocynnau i gigiau cerddoriaeth.

Roedd prisiau tocynnau ar gyfer Oasis wedi mwy na dyblu yn dilyn y galw – gan godi o £135 i £350 ar wefan Ticketmaster yn y pen draw. 

Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi dweud eu bod am ddiogelu pobl rhag y rheiny sydd yn prynu tocynnau gyda’r bwriad o'u hail-werthu am bris uwch. 

Ond yn dilyn beirniadaeth am brisiau tocynnau Oasis, mae’r llywodraeth bellach wedi dweud eu bod am drafod y modd y mae cwmnïau tocynnau yn codi eu prisiau yn ôl y galw hefyd. 

Mewn datganiad dydd Sul, dywedodd Ms Nandy: “Yn dilyn y newyddion anhygoel bod Oasis yn dychwelyd, mae’n ddigalon gweld bod prisiau’n cael ei godi gan eithrio ffans rhag cael y cyfle i fwynhau eu hoff fand yn fyw.” 

Roedd Arweinydd Tŷ’r Cyffredin ac Arglwydd Lywydd y Cyngor, Lucy Powell ymhlith y rheiny a gafodd ei tharo gan brisiau uwch ar gyfer tocynnau i weld y brodyr Gallagher yr haf nesaf. 

Dywedodd yr AS Llafur ei bod wedi talu £350 ar gyfer dau docyn yr un i Barc Heaton ym Manceinion ym mis Gorffennaf. £148.50 oedd pris gwreiddiol un tocyn, heb ffi archebu o £2.75.

Mae Ticketmaster wedi dweud nad ydyn nhw’n gyfrifol am osod prisiau tocynnau, ac yn ôl eu gwefan “trefnydd y digwyddiad” sydd yn “prisio’r tocynnau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.