Cyhoeddi rhestr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2024
01/09/2024
Mae rhestr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2024 wedi ei chyhoeddi.
Ar ôl cyhoeddi rhestr hir o'r albymau gorau gan artistiaid Cymreig dros y 12 mis diwethaf, mae beirniaid wedi cwtogi'r rhestr i 15 albwm.
Ymhlith yr artistiaid i gael eu henwebu mae Gruff Rhys, Aleigchia Scott, Cowbois Rhos Botwnnog, CHROMA a Pys Melyn.
Bydd y seremoni i gyhoeddi enillydd y wobr yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 8 Hydref 2024.
Rogue Jones oedd enillwyr y wobr yn 2023 am eu halbwm Dos Bebés.