Y rapiwr Fatman Scoop wedi marw yn 53 oed
Mae’r rapiwr Americanaidd Fatman Scoop wedi marw yn 53 oed ar ôl cael ei daro’n wael wrth berfformio ar lwyfan.
Cafodd y rapiwr, o’r enw Issac Freeman III, ei gludo i’r ysbyty ar ôl cyngerdd yn Connecticut, yn yr UDA, ddydd Gwener.
Roedd Fatman Scoop an adnabyddus am ei gan Be Faithful, a gyrhaeddodd brig y siartiau yn y DU yn 2003.
Fe wnaeth hefyd ymddangos yng nghyfres Celebrity Big Brother: UK vs USA ar Channel 5 yn 2015.
Dywedodd lefarydd ar ran yr asiantaeth yr oedd yn perthyn iddo, MN2S: “Mae ein calonnau wedi eu torri wrth i ni gyhoeddi marwolaeth ein ffrind annwyl a chleient, Fatman Scoop, yn 53 oed.
“Roedd Scoop yn ffigwr roedd pawb yn y byd gerddoriaeth yn ei garu, ac roedd ffans ledled y byd wedi mwynhau ei waith.
“Mae ei lais eiconig, ei egni a phersonoliaeth heintus wedi gadael eu hoel ar y diwydiant, ac mi fydd ei waddol yn byw drwy ei gerddoriaeth.”
Llun: CelebrityPhotosUK/Wochit