Newyddion S4C

Gwahardd X ym Mrasil ar ôl ffrae camwybodaeth

31/08/2024
Elon Musk

Mae'r cyfrwng cymdeithasol X wedi’i wahardd ym Mrasil ar ôl methu â bodloni terfyn amser a osodwyd gan farnwr yn y Goruchaf Lys i enwi cynrychiolydd cyfreithiol newydd yn y wlad.

Roedd Alexandre de Moraes wedi gorchymyn “atal ar unwaith ac yn llwyr” y platfform cyfryngau cymdeithasol, a'i henwir yn Twitter gynt, nes ei fod yn cydymffurfio â’r holl orchmynion llys ac yn talu dirwyon.

Fe ddechreuodd y ffrae ym mis Ebrill, gyda’r barnwr yn gorchymyn atal dwsinau o gyfrifon X am yr honnir iddynt ledaenu gwybodaeth anghywir.

Wrth ymateb i’r penderfyniad, dywedodd perchennog X, Elon Musk: “Mae lleferydd rhydd yn sylfaen i ddemocratiaeth ac mae ffug farnwr anetholedig ym Mrasil yn ei ddinistrio at ddibenion gwleidyddol.”

Yn ôl adroddiadau mae'r rhwydwaith cyfryngau cymdeithasol yn cael ei ddefnyddio gan o leiaf 10 y cant o 200 miliwn o drigolion y wlad.

Erbyn bore Sadwrn, roedd rhai defnyddwyr wedi dweud nad oedd mynediad i'r platfform bellach yn bosibl.

Fe gaeodd swyddfa X  ym Mrasil yn gynharach y mis hwn, gan ddweud bod eu cynrychiolydd wedi cael ei fygwth i gael ei arestio pe na bai’n cydymffurfio â gorchmynion yr oedd yn eu disgrifio fel “sensoriaeth”.

Roedd yr Ustus Moraes wedi gorchymyn bod yn rhaid i gyfrifon X sydd wedi’u cyhuddo o ledaenu camwybodaeth – nifer o gefnogwyr y cyn-arlywydd asgell dde Jair Bolsonaro – gael eu rhwystro tra’u bod nhw’n destun ymchwiliad.

Mae X wedi derbyn bygythiadau o ddirwyon am wrthod cydymffurfio â’r gorchymyn hwn, gyda’r cwmni a Mr Musk yn cyhuddo’r barnwr o fod â thueddiadau gwleidyddol adain chwith.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.