Newyddion S4C

Mam o'r de yn dechrau menter ar-lein i werthu dillad ail-law ei merch

ITV Cymru 30/08/2024
Julie a Rae Trott

Mae menyw o dde Cymru wedi dechrau menter newydd, ar ôl gwerthu dillad ei merch ar-lein o bryd i’w gilydd.

Roedd Julie Trott o Langeinwyr, Pen-y-bont ar Ogwr, wedi arfer prynu dillad ail-law i’w merch Rae yn y gorffennol.

“Dydw i byth wedi gwneud er mwyn elw, ond mae wedi bod yn fendith i allu prynu dillad ail-law iddi,” meddai Julie.

“Dwi eisiau annog pobl i ailddefnydio eu dillad oherwydd mae’n anhygoel… dwi’n ddiolchgar i’r bobl hynny oedd yn gwerthu’n ail-law, oherwydd ro’n i’n gallu eu prynu i fy merch.”

Image
Rae Trott

Roedd Julie eisoes yn gweithio fel ymarferydd blynyddoedd cynnar, ac mae bellach yn gobeithio y bydd bod yn hunangyflogedig yn rhoi mwy o amser rhydd iddi ofalu am ei merch chwe blwydd oed.

'Rhwystredig' prynu dillad ail-law

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, roedd cost cyfartalog dillad wedi cynyddu bron i 2% yn y flwyddyn yn arwain at fis Mehefin 2024, a 7.2% yn y flwyddyn flaenorol.

Dywedodd Julie: “Yn yr oes sydd ohoni, mae’n fwy cost-effeithiol [i brynu’n ail-law]. Mae plant yn tyfu mor gyflym, ac mae'n lleihau faint o wastraff sy'n mynd i’r safleoedd tirlenwi.

“Mae’n lleihau’r angen i gynhyrchu dillad.”

Yn ôl data sydd wedi cael ei gasglu gan The Round Up, sefydliad sy'n hyrwyddo cynaliadwyedd, mae rhwng 80 a 100 biliwn o ddillad newydd yn cael eu cynhyrchu'n fyd-eang bob blwyddyn. 

Yn ogystal, mae 7% o gyfanswm y gwastraff mewn mannau tirlenwi byd-eang yn cynnwys dillad a thecstilau. 

Mae Julie yn gobeithio y bydd ei menter yn gweld newid mewn agweddau pobl tuag at brynu dillad ail-law: 

“Flynyddoedd yn ôl, roedd hi’n rhwystredig i brynu dillad ail-law, ond dwi wastad wedi gwneud a dwi’n ceisio dangos i bobl ei bod hi’n iawn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.