Keir Starmer yn tynnu portread ‘annifyr’ o Margaret Thatcher i lawr yn Rhif 10
Mae portread o Margaret Thatcher wedi'i dynnu i lawr o wal yn Rhif 10 Downing Street gan y Prif Weinidog Keir Starmer ar ôl iddo ganfod ei fod yn "annifyr".
Yn ôl adroddiad yn y Mirror, mae arweinydd newydd y DU yn teimlo bod y portread o Thatcher, a wasanaethodd fel Prif Weinidog y Ceidwadwyr rhwng 1979 a 1990, sydd yn ystafell yr astudfa (study), yn “annifyr” gyda hi yn edrych i lawr arno.
Mae Downing Street wedi dweud nad ydyn nhw'n gwneud sylw am y mater.
Mae’r penderfyniad wedi cynddeiriogi rhai Torïaid, gyda’r cyn AS Jacob Rees-Mogg yn galw’r penderfyniad yn un sydd “ddim yn gweddu Prif Weinidog sydd â rôl i gynrychioli’r genedl, nid ei garfan wleidyddol yn unig.”
Ond mae Gweinidog Sgiliau'r DU, y Farwnes Jacqui Smith, wedi addo y bydd y portread o’r cyn-brif weinidog Margaret Thatcher yn aros yn Rhif 10.
Dywedodd fore dydd Gwener: “Roedd sawl tro yn ansefydlog i mi yn Rhif 10 ond nid oedd hynny fel arfer oherwydd y portreadau, rhaid i mi ddweud.
“Rwy’n meddwl bod Keir Starmer yn poeni mwy am fynd i’r afael â’r gwaith o gael y wlad i weithio’n iawn na ble mae’r lluniau.”