Newyddion S4C

Israel yn cytuno i oedi'r rhyfel yn Gaza er mwyn brechu plant yn erbyn polio

30/08/2024
Gaza

Mae Israel wedi cytuno i sawl “seibiant dyngarol” yn Gaza er mwyn caniatáu plant yno i gael brechiad yn erbyn polio, medd Sefydliad Iechyd y Byd.

Dywedodd un o brif swyddogion y sefydliad, Rik Peeperkorn, mai nod yr ymgyrch a fydd yn cychwyn ddydd Sul yw rhoi brechiadau i tua 640,000 o blant ar lain Gaza.

Fe fydd yr ymgyrch yn cael ei chynnal mewn tri cham, gyda phlant mewn ardaloedd ar hyd y canolbarth, y de a’r gogledd yn derbyn y brechiad. 

Yn ystod y cyfnodau rheiny, bydd rhyfela yn cael ei oedi am dri diwrnod yn olynol, rhwng 06.00 a 15.00 amser lleol.

Daw’r cytundeb ddyddiau wedi i swyddogion o’r Cenhedloedd Unedig dweud fod baban 10 mis oed wedi ei barlysu’n rhannol ar ôl gael ei heintio gydag achos cyntaf o bolio yn Gaza ers 25 mlynedd. 

Yn glefyd heintus sydd yn bresennol yng ngharthion a dŵr halogedig, fe allai polio achosi parlys y corff, achosi i’r corff anffurfio, ac fe allai achosi marwolaeth hefyd. Mae’r clefyd yn effeithio plant dan bump oed yn bennaf.

Mae tua 1.26m o frechiadau polio (nOPV2) eisoes ar gael i’w darparu yn Gaza, gyda disgwyl i 400,000 o frechiadau pellach i gael eu cludo yno’n fuan.

Dywedodd swyddogion o Sefydliad Iechyd y Byd eu bod yn gobeithio sicrhau fod 90% o blant yn cael eu brechu ar hyd a lled y llain, a hynny er mwyn sicrhau nad yw’r haint yn ymledu ymhellach y tu fewn i Gaza.

Mae yna gytundeb hefyd y gallai pedwerydd diwrnod o oedi cael ei gynnal er mwyn sicrhau fod digon o bobl yn derbyn y brechiad.

Dywedodd Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) eu bod wedi dechrau darparu brechiadau i’w milwyr ym mis Gorffennaf.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.