Louis Rees-Zammit yn ymuno â thîm arall yn yr NFL
Mae Louis Rees-Zammit wedi ymuno â thîm arall yn yr NFL ar ôl methu a sicrhau ei le ym mhrif garfan y Kansas City Chiefs.
Bydd y cyn chwaraewr rygbi yn ymuno â'r Jacksonville Jaguars sydd wedi eu lleoli yn Florida.
Fe fydd yn rhan o garfan ymarfer y Jaguars, ac mae ei safle wedi ei restru fel 'wide receiver'.
Roedd wedi chwarae fel cefnwr yn ystod gemau rhagbrofol y Chiefs cyn dechrau'r tymor newydd.
Bydd y Jaguars yn chwarae dwy o'u gemau yn y DU eleni, yn erbyn y Chicago Bears yn Stadiwm Tottenham Hotspur a'r New England Patriots yn Wembley.
Fe ddechreuodd taith Louis Rees-Zammit i'r NFL trwy'r Llwybr Chwaraewr Rhyngwladol (IPP), sydd yn rhoi llwyfan i athletwyr rhyngwladol chwarae yn yr NFL.
Cafodd ei arwyddo gan y Chiefs ar ôl ei gyfnod 10 wythnos gyda'r IPP, ar gytundeb hyd at dair blynedd.
Llun: Wochit