Daniel James i fethu gemau Cymru yn erbyn Twrci a Montenegro o achos anaf
Bydd Daniel James yn methu chwarae yng ngemau nesaf Cymru yn erbyn Twrci a Montenegro oherwydd anaf.
Cafodd James ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer y gemau ar 6 a 9 Medi gan reolwr newydd Cymru Craig Bellamy ddydd Mercher.
Fe wnaeth Cymru gadarnhau ei fod wedi ei anafu nos Iau hefyd, a bydd cyhoeddiad am bwy fydd yn cymryd ei le yn y garfan maes o law.
Wrth siarad cyn gêm nesaf Leeds ddydd Sadwrn, dywedodd Daniel Farke na fydd James ar gael ar gyfer yr ornest a ni fydd yn chwarae dros Gymru chwaith o ganlyniad i'r anaf.
"Mae gan Dan James anaf i'w linyn y gar ac fe fydd yn colli'r gêm yn erbyn Hull. Ni fydd yn chwarae gyda Chymru," meddai.
Sgoriodd Dan James yn erbyn Y Ffindir yn rownd gyn-derfynol gemau ail-gyfle Euro 2024 ym mis Mawrth.
Mae'r asgellwr 26 oed wedi sgorio saith gôl a chwarae 53 o gemau dros ei wlad.
Llun: Asiantaeth Huw Evans