Syr Keir Starmer yn Berlin i drafod cytundeb newydd rhwng y DU a'r Almaen
Mae disgwyl i’r DU ddechrau trafodaethau ar gytundeb cydweithredu newydd gyda’r Almaen, wrth i’r llywodraeth Lafur geisio “ailosod” cysylltiadau gydag Ewrop.
Dywedodd Prif Weinidog y DU Syr Keir Starmer, sydd yn Berlin ar gyfer cyfarfodydd gyda Changhellor yr Almaen Olaf Scholz, fod y cytundeb yn rhan o gais i "droi cornel ar Brexit".
Dywedodd Downing Street y byddai'r cytundeb yn cwmpasu meysydd fel diogelwch ynni, technoleg a gwyddoniaeth.
Ychwanegodd y byddai hefyd yn cynnwys mynediad i farchnadoedd ei gilydd a masnach ar draws Môr y Gogledd.
Ar ôl Berlin, bydd Syr Keir yn teithio i Baris i gwrdd ag Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, a mynychu seremoni agoriadol y Gemau Paralympaidd.
Dywedodd Rhif 10 bod gobaith y byddai cytundeb newydd gyda'r Almaen yn cael ei gytuno erbyn dechrau'r flwyddyn nesaf.
Ychwanegodd Downing Street y byddai'n adeiladu ar gytundeb amddiffyn rhwng y ddwy wlad sydd eisoes yn cael ei drafod, sydd i'w gwblhau yn yr hydref.
Fe wnaeth y cytundeb hwnnw, a gyhoeddwyd fis diwethaf, weld y ddwy wlad yn addo prynu mwy o offer milwrol gyda'i gilydd a'i gwneud hi'n haws i fyddinoedd ei gilydd ei ddefnyddio, yn ogystal â chynyddu cydweithrediad mewn meysydd fel seiber-ryfela.
Mae Syr Keir wedi addo meithrin perthynas economaidd agosach ag Ewrop, gan gynnwys cytundeb “llawer gwell” ar fasnach na’r un a drafodwyd gan Boris Johnson ddiwedd 2020.