Rhaid derbyn 'poen tymor byr er lles hir dymor,' medd Syr Keir Starmer
Mae Prif Weinidog y DU Syr Keir Starmer wedi dweud y bydd Cyllideb gyntaf y Llywodraeth newydd yn un ‘boenus’, gan ofyn i’r wlad dderbyn ‘poen tymor byr er lles hir dymor.’
Yn ei araith yng ngardd Downing Street fore Mawrth, fe wnaeth Mr Starmer ddweud fod ei Lywodraeth wedi gwneud "mwy mewn saith wythnos na lwyddodd y Llywodraeth Geidwadol ei wneud mewn saith mlynedd".
Fe rybuddiodd fod “pethau yn waeth nag y gwnaethom ddisgwyl” oherwydd twll ariannol o £22 biliwn.
Dywedodd y byddai yn parhau â chynlluniau i ddileu Taliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer nifer fawr o bensiynwyr, gan rybuddio y byddai rhagor o “benderfyniadau anodd” i ddilyn.
Ychwanegodd ei fod wedi darganfod wythnos diwethaf fod y Ceidwadwyr wedi benthyg £5 biliwn yn fwy na’r hyn yr oedd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi ei ragweld.
Dywedodd hefyd bod Llywodraeth y DU wedi etifeddu “twll mawr yn ein cymdeithas”, a gafodd ei waethygu gan y terfysgoedd diweddar ar draws dinasoedd yn Lloegr.
Mae’r Ceidwadwyr wedi dweud bod yr araith yn “ymgais i dynnu sylw’r cyhoedd oddi ar yr addewidion mae Starmer wedi eu gwneud, heb unrhyw fwriad o’u gwireddu.”
‘Llanast’
Dywedodd Syr Keir Starmer: “Mae Cyllideb yn dod ym mis Hydref, ac mae’n mynd i fod yn boenus. Nid oes gennym unrhyw ddewis arall, o ystyried y sefyllfa yr ydym ynddi.
“Dylai’r rhai a wnaeth y llanast orfod gwneud eu rhan i’w lanhau – dyna pam rydym yn cryfhau pwerau’r rheolydd dŵr ac yn cefnogi dirwyon llym i’r cwmnïau dŵr sy’n gadael i garthion orlifo yn ein hafonydd, llynnoedd a moroedd.
“Ond, yn union fel pan fyddaf yn ymateb i’r terfysgoedd, bydd yn rhaid i mi droi at y wlad a gofyn llawer ohonoch hefyd, i dderbyn poen tymor byr er lles hir dymor, sef y cyfaddawd anodd er mwyn cyrraedd y datrysiad.
“A gwn, wedi’r cyfan yr ydych wedi bod drwyddo, fod hwnnw’n ofyn mawr iawn ac yn anodd iawn ei glywed.
"Nid dyna’r sefyllfa y dylen ni fod ynddi. Nid dyna’r sefyllfa rydw i eisiau bod ynddi, ond mae’n rhaid i ni roi diwedd ar wleidyddiaeth yr ateb hawdd – nid yw hynny’n datrys unrhyw beth.”