Newyddion S4C

Cymdeithas Bêl-droed Cymru 'erioed wedi trafod' sefydlu tîm dynion GB yn 2028

27/08/2024
Noel Mooney

Nid yw Cymdeithas Bêl-droed Cymru 'erioed wedi trafod' y posibilrwydd o sefydlu tîm dynion Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd yn 2028, yn ôl y prif weithredwr Noel Mooney. 

Mae Team GB yn gobeithio cael tîm pêl-droed dynion yng Ngemau Olympaidd Los Angeles yn 2028.

Bwriad Cymdeithas Olympaidd Prydain yw uno Cymdeithasau pêl-droed Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i sefydlu carfan yn enw Team GB.

Dyma fyddai'r tro cyntaf i Team GB chwarae yn nhwrnamaint dynion y Gemau Olympaidd ers Llundain 2012.

Roedd y garfan honno yn cynnwys pum Cymro, gan gynnwys y rheolwr presennol Craig Bellamy a'r capten Aaron Ramsey. 

Dywedodd Noel Mooney wrth adran chwaraeon BBC Cymru: "Dydyn ni heb glywed unrhyw beth yn uniongyrchol am y syniad Team GB yma ac dydyn ni erioed wedi ei drafod.

"Rydym ni'n genedl bêl-droed. Rydym ni bellach yn mynd i bencampwriaethau yn rheolaidd. Rydym ni'n disgwyl gwneud hynny ac mae ein ffocws ni ar Gymru.

"Dwi ddim wedi clywed unrhyw beth amdano heblaw yr hyn dwi wedi ei glywed yn y cyfryngau. Dydyn ni heb ei drafod yma, ond os oes trafodaeth, ein safbwynt ni ydy ein bod ni'n canolbwyntio ar ein tîm cenedlaethol yn chwarae allan yn y byd."

Mae carfan merched Team GB yn gymwys i gymryd rhan yn y Gemau, ond fe wnaethon nhw fethu ag ennill lle ar gyfer Paris 2024.

Roedd gan Brydain Fawr dîm y dynion ym mhob un o'r Gemau rhwng 1948 a 1972

Ond yna cafwyd gwrthwynebiad gan Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a oedd yn teimlo y gallai eu hannibyniaeth yng nghystadlaethau FIFA ac UEFA gael ei beryglu pe baent yn cystadlu fel un tîm yn y Gemau Olympaidd.

Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Olympaidd Prydain, Andy Anson, y byddai cael tîm dynion yn y Gemau yn Los Angeles ymhen pedair blynedd yn “wych ar gyfer pêl-droed”.

“Mae'n rhywbeth y byddwn i wrth fy modd yn gweld yn digwydd,” meddai Mr Anson. 

“Hoffwn weithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Lloegr, gyda Chymdeithas yr Alban, gyda Chymdeithas Cymru a Chymdeithas Gogledd Iwerddon, os gallwn wneud iddo ddigwydd. Byddai'n wych ar gyfer pêl-droed, i bêl-droed ieuenctid a phêl-droed yn gyffredinol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.