Y band Oasis yn ail-ffurfio gan gyhoeddi cyngherddau yng Nghaerdydd
Y band Oasis yn ail-ffurfio gan gyhoeddi cyngherddau yng Nghaerdydd
Mae'r band Oasis wedi cyhoeddi eu bod nhw'n ail-ffurfio, ac fe fyddan nhw'n dechrau ar eu taith o gwmpas y DU yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf.
Bydd Liam a Noel Gallagher yn perfformio yng Nghaerdydd, Manceinion, Llundain, Caeredin a Dulyn ym mis Gorffennaf ac Awst.
Mewn datganiad, dywedodd y band: "Mae Oasis heddiw yn rhoi diwedd ar flynyddoedd o ddyfalu drwy gadarnhau taith hir-ddisgwyliedig gan ddechrau yn y DU ac Iwerddon ar gyfer eu taith byd Oasis Live '25.
"Bydd Oasis yn perfformio yng Nghaerdydd, Llundain, Manceinion, Caeredin a Dulyn yn haf 2025."
Mae cynlluniau i'r band berfformio mewn cyfandiroedd eraill yn ddiweddarach y flwyddyn nesaf.
Inline Tweet: https://twitter.com/oasis/status/1828326826655068657
Bydd tocynnau yn mynd ar werth o 09:00 fore Sadwrn.
Cynyddu mae'r dyfalu wedi bod ers dyddiau bellach, gyda Liam a Noel Gallagher yn pryfocio y byddai cyhoeddiad am 08.00 fore Mawrth.
Cafodd darn fideo byr o arwydd logo Oasis ei gyhoeddi ar gyfrifon Instagram y ddau nos Sul, yn ogystal â thudalen swyddogol y band.
Mae'r dyddiad “27.08.24” yng nghanol yr arwydd, cyn iddo newid i “8am”.
'Cyffrous iawn'
Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, y cynghorydd Huw Thomas: "Fel nifer o fy nghenhedlaeth i, dwi'n gyffrous iawn fod Oasis yn ail-ffurfio, ac mae'r newyddion y bydd y daith yn dechrau yng Nghaerdydd yn eisin ar y gacen.
"Gyda ffigyrau gan UK Music yn dangos bod twristiaid sy’n ymweld â Chymru am resymau cerddorol wedi gwario £276 miliwn y llynedd, maen nhw hefyd yn rhoi hwb gwirioneddol i economi’r ddinas, gan bwysleisio ein cynllun ni i wneud Caerdydd yn un o ddinasoedd gorau'r byd ar gyfer cerddoriaeth."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n newyddion gwych y bydd Oasis yn dechrau eu taith yng Nghaerdydd.
"Byddant yn ymuno â rhestr hir o artistiaid byd-enwog sydd wedi dewis chwarae yn ein prifddinas yn y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys Taylor Swift, Bruce Springsteen, Billy Joel, Coldplay a Beyonce ymysg eraill."
Mae eu ffans wedi bod yn ymbilio ar y band o Fanceinion i ail ffurfio, ers iddyn nhw wahanu yn 2009.
Daeth popeth i ben wedi ffrae yng ngŵyl Rock en Seine ym Mharis, ac mae'r cecru rhyngddyn nhw wedi parhau ers hynny.
Yn ystod perfformiad Liam Gallagher yng ngŵyl Reading nos Sul, dywedodd ei fod yn cyflwyno'r gân Half The World Away gan Oasis i'w frawd Noel.
Ac yn ddiweddarach dywedodd fod eu can Cigarettes & Alcohol yn cael ei chyflwyno i bobl sy'n 'casáu'r band'.
Ar ddiwedd y perfformiad, cafodd yr un darn fideo gyda dyddiad dydd Mawrth ei arddangos ar brif sgriniau'r llwyfan.
Perthynas stormus
Mae'r dyfalu am yr aduniad wedi cynyddu yn ddiweddar, yn sgil sïon bod y ddau frawd yn dechrau cymodi.
Daw'r dyfalu bron 30 mlynedd ers albwm cyntaf y band, Definitely Maybe, gyda bwriad i gyhoeddi fersiwn arbennig ohono.
Mae Liam wedi bod yn teithio o amgylch y DU yr haf hwn, yn dathlu'r albwm a gafodd ei gyhoeddi yn 1994.
Wedi iddyn nhw ffurfio yn 1991, cafodd y band lwyddiant mawr gyda chaneuon fel Wonderwall, Don’t Look Back In Anger a Stop Crying Your Heart Out.
Roedden nhw yn un o fandiau mwyaf y DU cyn iddyn nhw wahanu yn 2009.