Newyddion S4C

Prisiau nwyddau mewn siopau yn gostwng am y tro cyntaf ers bron dair blynedd

27/08/2024
Siopa

Mae prisiau mewn siopau wedi gostwng fis Awst am y tro cyntaf ers bron dair blynedd, yn ôl ffigyrau sydd newydd eu cyhoeddi.  

Mae busnesau wedi cyflwyno bargeinion mawr er mwyn cael gwared â nwyddau'r haf, ac mae'n ymddangos fod hynny'n rhannol gyfrifol am y gostyngiad cyntaf ers mis Hydref 2021, yn ôl un grŵp arbenigol.  

Datchwyddiant yw'r term swyddogol am hynny, ac mae'n digwydd pan fo lefel gyffredinol prisiau nwyddau a gwasanaethau yn gostwng, a hynny pan fo'r raddfa chwyddiant yn gostwng yn is na 0%.

Roedd cost nwyddau mewn siopau fis Awst 0.3% yn is na'r un cyfnod y llynedd, yn ôl Consortiwm Manwerthu Prydain.

Cafodd yr arolwg ei gynnal yn ystod wythnos gyntaf Awst.  

Dywedodd Helen Dickinson, prif weithredwr y consortiwm bod yr ystadegau yn "adlewyrchu penderfyniad perchnogion siopau i gyflwyno bargeinion mawr er mwyn cael gwared â nwyddau'r haf, yn enwedig ym maes ffasiwn a chynnyrch ar gyfer y tŷ.

“Daeth y bargeinion wedi haf anodd, yn sgil y tywydd gwael a'r argyfwng costau byw sy'n dal i effeithio ar nifer fawr o deuluoedd,” meddai.

Yn y cyfamser, fe gododd prisiau bwyd 2% ym mis Awst , o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Ond mae'r raddfa wrth i brisiau godi yn dal i arafu, a dyma'r lefel isaf ers Tachwedd 2021. 

Arafodd chwyddiant bwyd hefyd i 1% fis Awst, yn enwedig gyda gwerthiant ffrwythau, cig a physgod.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.