GWYLIWCH: Y Cymro Mark Harris yn sgorio chwip o gôl i Oxford United
Mae'r Cymro Mark Harris wedi sgorio gôl anhygoel i Oxford United bnawn Sadwrn, gan arwain at rai'n gofyn os mai hon fydd gôl y tymor yn y Bencampwriaeth?
Roedd Harris, sydd yn dod o Abertawe, yn chwarae fel ymosodwr oddi cartref yn erbyn Blackburn pan darodd daran o ergyd o 35 llath, gyda'r bêl yn codi a chrymanu i gefn y rhwyd.
Ond er yr ergyd anhygoel, colli oedd hanes ei dîm o 2-1 ar ddiwedd y 90 munud.
Fe fydd y Cymro 25 oed yn gobeithio y bydd y gôl gofiadwy'n ei helpu i gael ei ddewis yng ngharfan Cymru cyn y gemau yn erbyn Twrci a Montenegro.
Bydd Craig Bellamy'n dewis ei garfan yr wythnos nesaf.
Inline Tweet: https://twitter.com/SkyBetChamp/status/1827392187115696140