Newyddion S4C

Dynes wedi marw ar ôl gwrthdrawiad yng Ngwynedd

23/08/2024
A496 Bermo

Mae dynes wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gar yn y Bermo, Gwynedd, ddydd Gwener.

Cafodd yr heddlu a'r gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A496 am 13:14 ac mae'r ffordd yn parhau ar gau.

Roedd y gwrthdrawiad rhwng Suzuki Ignis gwyn a Kia Carens arian.

Bu farw'r ddynes yn y fan a'r lle ac mae ei theulu agosaf wedi cael gwybod.

Cafodd pedwar person eu cludo i'r ysbyty yn Stoke, tri ohonyn nhw mewn ambiwlans awyr.

Nid yw eu cyflwr yn hysbys ar hyn o bryd.

Dywedodd y Cwnstabl Eleri Jones o Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw'n apelio am unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad.

"Mae ein meddyliau gyda theulu'r ddynes fu farw yn ystod yr adeg anodd hwn," meddai.

"Rydym yn awyddus i siarad ag unrhyw un oedd yn dyst i'r gwrthdrawiad, neu unrhyw un oedd yn teithio ar hyd yr A496 cyn y gwrthdrawiad ac sydd â lluniau cylch cyfyng cyn gynted â phosib."

Gallwch gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru ar eu gwefan neu drwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod Q126958.

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.