Anhrefn Southport: Dyn o dde Cymru'n gwadu ysgogi casineb hiliol ar-lein
23/08/2024
Bydd dyn o dde Cymru yn wynebu achos llys y flwyddyn nesaf wedi’i gyhuddo o ysgogi casineb hiliol ar gyfryngau cymdeithasol yn dilyn yr anhrefn yn Southport.
Ymddangosodd Jamie Michael, 45 oed, yn Llys y Goron Casnewydd i wadu cyhuddiad o dan y Ddeddf Trefn Gyhoeddus o gyhoeddi deunydd bygythiol ar gyfrif Facebook ar 31 Gorffennaf gyda'r bwriad o ysgogi casineb hiliol.
Dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke, Cofiadur Caerdydd, y byddai Michael yn wynebu achos llys tridiau yn Llys y Goron Merthyr yn dechrau ar 3 Chwefror 3 y flwyddyn nesaf.
Cafodd y diffynnydd, o Ffordd Crawshay, Pen-y-graig, ei gadw yn y ddalfa cyn ei achos llys.