Newyddion S4C

Storm Lilian: Yr heddlu'n rhybuddio pobl i yrru'n ofalus ar ôl i goed syrthio ar ffyrdd

23/08/2024
Coed

Mae Heddlu'r Gogledd yn annog pobl i yrru'n ofalus yn dilyn adroddiadau fod coed wedi syrthio ar draws ffyrdd yn dilyn gwyntoedd cryfion.

Daw'r cyngor yn dilyn rhybudd melyn am wyntoedd cryfion i rannau o ogledd Cymru fore Gwener yn sgil Storm Lilian.

Roedd y rhybudd mewn grym rhwng 5:00 a 11:00 fore Gwener ac yn effeithio ar Ynys Môn, Gwynedd, Sir Ddinbych, Conwy a Sir y Fflint.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd yr heddlu: "Rydym yn derbyn nifer o adroddiadau am goed a changhennau wedi syrthio ar ffyrdd yn sgil gwyntoedd cryfion - rydym yn eich cynghori i gymryd gofal arbennig ar eich taith heddiw," meddai'r heddlu. 

"Rydym wedi rhoi gwybod i adrannau priffyrdd a byddant yn delio gyda'r sefyllfa cyn gynted â phosib."

Yn ôl Cyngor Sir Ynys Môn, roedd nifer o ffyrdd ar gau yn y lleoliadau canlynol am gyfnod, ond maen nhw wedi ail-agor erbyn hyn:

-Dwyran

-B4545 Bae Trearddur, ger y cwrs golff

-Rhoscefnhir
 

Ychwanegodd y cyngor bod criwiau wedi gweithio'n galed i glirio'r ffyrdd.

Yn dilyn y tywydd garw, dywedodd Traffig Cymru bod cyfyngiadau mewn lle ar yr A55 dros Bont Britannia ar gyfer beiciau, beiciau modur a charafanau.

Mae tagfeydd hefyd yn bosib ar y bont i gyfeiriad y dwyrain gydag "oedi'n debygol", meddai.

Llun: Traffig Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.