Newyddion S4C

Rhybudd melyn am wyntoedd cryfion i rannau o'r gogledd

23/08/2024
Gwynt

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion i rannau o'r gogledd ddydd Gwener. 

Bydd y rhybudd mewn grym o 05:00 tan 11:00 ddydd Gwener. 

Bydd yn effeithio ar Ynys Môn, Gwynedd, Sir Ddinbych, Conwy a Sir y Fflint.

Mae disgwyl i Storm Lilian ddod â gwyntoedd cryfion a fydd yn gallu achosi oedi ar y ffyrdd ac ar drafnidiaeth gyhoeddus. 

Mae’r Swyddfa Dywydd hefyd wedi rhybuddio fod perygl i fywyd ac anafiadau yn bosib yn sgil tonnau cryf mewn ardaloedd arfordirol. 

Gallai rhai ffyrdd a phontydd hefyd gau yn ôl y Swyddfa Dywydd. 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi fod rhybudd llifogydd mewn grym dros rhannau helaeth o arfordir Cymru ddydd Gwener.

Mae rhybudd "llifogydd - byddwch yn barod" mewn grym ar gyfer afonydd yn y gogledd orllewin, gorllewin a’r de-orllewin.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rhybuddio bod disgwyl llifogydd ar dir a ffyrdd isel yn yr ardaloedd yma. 

Dywed CNC bod disgwyl i lefelau afonydd fod yn uwch na'r arfer a bod angen i bobl gymryd gofal.

Dyma’r ardaloedd ac afonydd sydd wedi eu heffeithio:

  • Conwy
  • Dysynni
  • Mawddach ac Wnion
  • Llwchwr ac Aman
  • Glaslyn a Dwyryd
  • Tawe Uchaf
  • Nedd
  • Gwendraeth Fawr a Fach
  • Taf a Chynin
  • Arfordir Llŷn a Bae Ceredigion

 



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.