Newyddion S4C

Coeden nodedig o Gymru ar restr fer ‘Coeden y Flwyddyn’

Derwen Gregynog

Mae un o goed mwyaf adnabyddus Cymru ar restr fer Coeden y Flwyddyn y DU.

Mae Derwen Gregynog ymhlith 12 o goed derw ar draws y DU sy’n cael eu hystyried yn y gystadleuaeth gan Yr Ymddiriedolaeth Goed, neu Coed Cadw yng Nghymru.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i’r cyhoedd ddewis eu hoff goeden.

Mae’r rhestr yn cynnwys coed derw sydd dros 1,000 o flynyddoedd oed.

Mae Derwen Gregynog yn sefyll ymhlith nifer o goed enfawr mewn coedwig sy’n llawn bywyd gwyllt ar dir Neuadd Gregynog ym Mhowys.

Mae dros 500 mlwydd oed ac wedi egino pan oedd Harri'r Vlll yn teyrnasu.

Dywedodd Dr Kate Lewthwaite o’r Ymddiriedolaeth Goed: “Fe wnaethon ni ddewis y dderwen eiconig oherwydd ei fod yn dal dychymyg pobl – o’u dail i’w mes, mae’r coed hyn wedi’u gwreiddio yn ein treftadaeth – ac maen nhw mor drawiadol o ran eu hetifeddiaeth, eu maint a'u hoedran.

“Roedd rhai derw sy’n fyw heddiw yn ganrifoedd oed ar adeg y Frenhines Elisabeth I, neu Charles Darwin."

Mae’r Ymddiriedolaeth Goed yn ymgyrchu am gyfreithiau mwy cadarn i amddiffyn rhai o goed mwyaf gwerthfawr y wlad.

Fe fydd y goeden sy’n ennill y gystadleuaeth yn mynd ymlaen i gystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Llun: Coed Cadw

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.