Newyddion S4C

Y clwb lle dechreuodd y Beatles bellach yn Airbnb

21/08/2024
The Beatles

Mae'r clwb lle dechreuodd aelodau'r Beatles berfformio bellach ar agor fel llety Airbnb.

Cafodd y Casbah Coffee Club, yn West Derby, Lerpwl ei agor ym 1959 gan Mona Best – mam drymiwr gwreiddiol y Beatles, Pete Best, a hynny ar lawr isa'r cartref teuluol.  

Perfformiodd band cyntaf John Lennon, y Quarrymen yno 13 o weithiau, cyn i'r Beatles ymddangos yno 40 o weithiau yn ddiweddarach. 

Caeodd y clwb a oedd dan y ddaear yn 1962 , ond mae miloedd o dwristiaid wedi heidio yno dros y blynyddoedd.

Bellach, mae'r ystafelloedd uwchben y clwb wedi eu haddasu ac yn cynnig llety, gyda llofftydd o'r enw John Lennon, Syr Paul McCartney, George Harrison, yn ogystal â Stuart Sutcliffe, sef gitarydd bas gwreiddiol y band, a Pete Best.  

Symudodd Best, sydd bellach yn 82 oed, i'r tŷ pan roedd yn 16 oed. 

Dywedodd fod ganddo atgofion melys am ei fagwraeth yno a pherfformio gyda'r band.  

Wrth ymateb i'r penderfyniad i drawsnewid y safle yn llety gwyliau, dywedodd bod hynny'n "deyrnged barhaol" i'r band a thaw breuddwyd ei fam oedd cynnig cyfle i ffans y Beatles ddilyn ôl troed eu harwyr. 

Pete Best a'i frawd ieuengaf Roag, sy'n fab i reolwr y Beatles Neil Aspinall, sydd wedi bod yn gyfrifol am y gwaith o addasu'r tŷ ers 2020. 

Dywedodd Roag: “Cefais fy ngeni yma, yn yr ystafell sydd bellach o dan yr enw McCartney Suite

“Dyma lle cefais fy magu a dyma'n cartref teuluol hyd nes i mi symud pan yn 24 oed."

Mae themâu'r Beatles yn yr ystafelloedd, yn cynnwys lluniau, posteri a gitars ar y waliau.  

Mae'r ystafell is law, o dan y ddaear wedi ei chadw fel ag yr oedd pan yn glwb, gyda drymiau yn cael eu harddangos yno.  

Dim ystafell Ringo 

Does dim ystafell wedi ei henwi ar ôl y drymiwr Syr Ringo Starr, a gafodd ei ddewis i gymryd lle Pete Best. Ond yn ôl Roag, does dim blas cas.

Dywedodd: “Does gan hynny ddim oll i wneud â Pete a Ringo a'r hyn ddigwyddodd.

“Y Beatles a berfformiodd yma oedd John, Paul, George, Pete a Stuart. Doedd Ringo ddim yn aelod pan roedd e yma.”

Roedd yr agoriad swyddogol ddydd Mercher, ond mae'r ystafelloedd wedi bod ar gael i'w harchebu ers dechrau Awst, ac mae ymwelwyr o America, Llundain a'r Alban eisoes wedi aros yno. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.