Gyrrwr fan o Abertawe yn credu 'efallai' bod pobl y tu mewn i'w gerbyd ar long
Mae gyrrwr fan o Abertawe wedi dweud mewn llys barn, iddo gredu "efallai" bod pobl yn ei gerbyd tra roedd ar long a oedd yn hwylio tuag at dde ddwyrain Lloegr.
Mae Anas Al Mustafa, 43, wedi ei gyhuddo o smyglo mudwyr drwy eu cuddio yn ei fan, mewn lle cyfyng.
Cafodd saith o bobl eu hachub tra roedden nhw yn y fan a oedd yn teithio ar fwrdd llong rhwng Dieppe yn Ffrainc a Newhaven yn nwyrain Sussex ar 16 Chwefror.
Clywodd y criw ar y llong swn taro a phobl yn gweiddi am gymorth, wrth i ocsigen brinhau mewn uned oer yn y cerbyd.
Clywodd y rheithgor yn Llys y Goron Lewes fod y criw ar long y Seven Sisters wedi clywed bobol yn ymbilio am help y tu mewn i'r fan, a'u bod wedi defnyddio bwyell er mwyn torri'r rhaniad oedd wedi ei osod er mwyn cuddio'r bobl y tu mewn.
Cafodd y saith eu hachub.
Wrth agor yr achos, dywedodd Nick Corsellis KC ar ran yr erlyniad bod y safle lle roedd y saith yn sefyll yn ddau fetr o led a 194 cm o uchder.
Doedden nhw ddim yn medru symud, eglurodd.
Doedden nhw ddim wedi cael unrhyw ddŵr, ychwanegodd yr erlynydd.
Dywedodd Mr Corsellis: “Oherwydd y gwres, am fod saith o bobl mewn man cyfyng, a diffyg aer/ocsigen, roedd hon yn sefyllfa ofnadwy o beryglus."
Cafodd y grŵp eu hachub tua 9.20am. Erbyn hynny, roedd dau o'r mudwyr yn anymwybodol, yn ôl yr erlynydd.
Ymatebodd nyrs o Awstralia a oedd yn teithio ar y llong i'r alwad am gymorth. Dywedodd Sari Gehle wrth y llys bod dynes yn gafael yn ei braich yn dynn gan ail adrodd y geiriau: “Fietnam, Fietnam”, felly daeth i ddeall fod y grŵp o'r wlad honno.
Dywedodd ei bod yn cofio gweld dyn ar y llawr yn cyfogi, ac un arall gyda briw ar ei ysgwydd chwith. Cafodd pob un ohonyn nhw fasgiau oscsigen.
Wedi hynny, dechreuodd yr ymdrechion i gysylltu â gyrrwr y fan a oedd ar fwrdd y llong, sef Mr Al Mustafa, ond aflwyddiannus fu hynny, yn ôl yr hyn a gafodd ei grybwyll yn y llys.
Mewn datganiad, dywedodd capten y llong Xavier Fontenit, ei bod hi'n ymddangos nad oedd y gyrrwr, pan ymddangosodd yn y pendraw " yn deall yr hyn oedd yn digwydd."
Ychwanegodd na wnaeth unrhyw ymdrech i gynorthwyo'r rhai oedd yn rhan o'r ymgyrch achub, ai fod yn syllu ar ei ffôn glyfar.
Yn ôl y capten: “Doedd e ddim yn edrych fel pe bai wedi cael syndod. Arhosodd yn y garej yn dweud dim, hyd nes iddo gael ei gludo i'r lan gan yr heddlu.”
Cafodd y mudwyr eu cludo i ysbyty gerllaw, ychwanegodd.
Cafodd Mr Al Mustafa ei arestio, a phan gafodd ei holi gan yr heddlu, clywodd y llys iddo ddweud ei fod wedi dod i'r Deyrnas Unedig yn 2011, gan weithio fel adeiladwr llawrydd.
Symudodd i'r DU o Syria, a phan roedd yn Syria fis Ionawr, dywedodd wrth yr heddlu iddo gael ei gyflwyno i ddyn o'r enw Badr, a oedd eisiau iddo weithio ar ei gyfer yn gyrru fan.
Dywedodd Mr Al Mustafa iddo wneud hynny ar un achlysur blaenorol, a chael ei dalu £500 i yrru fan i Lerpwl ar gyfer prawf MoT, ond ar gyfer y swydd ym mis Chwefror, roedd taliad o £5,000 am yrru cerbyd o Wlad Belg i'r DU, clywodd y llys.
Clywodd y rheithgor fod Mr Al Mustafa wedi dweud wrth yr heddlu nad oedd yn gwybod bod bobl yn y fan, ond gan ei fod yn cael ei dalu £5,000 roedd yn credu “efallai y tro hyn bod bobl y tu mewn” i'r cerbyd.
Clywodd y llys bod gwaith ymchwil wedi i Mr Al Mustafa’s gael ei arestio, wedi darganfod iddo ymchwilio i unedau oer, a bod ôl traed a oedd yn debyg i'r diffynnydd wedi eu darganfod ar fonet y cerbyd, yn y fan ble roedd modd cael mynediad i'r uned, lle roedd y saith o bobl yn cael eu cadw.
Mae Anas Al Mustafa yn gwadu iddo gynorthwyo, drwy ganiatáu mewnfudo anghyfreithlon i'r DU, ac mae'r achos yn parhau.
Llun: PA