Newyddion S4C

'Cwsmer hapus': Ci'n cael ei achub ar ôl mynd yn sownd mewn twll cathod

20/08/2024
Hank y ci

Cafodd swyddogion o'r gwasanaeth tân alwad annisgwyl am gymorth ar ôl i gi mawr fynd yn sownd mewn twll cathod.

Aeth Hank y Tank i dipyn o dwll ar ôl i'w ben fynd yn sownd yn y drws mewn tŷ yn Kidderminster.

Fe gymerodd 40 munud a thipyn o ymdrech gan y gwasanaeth tân i'w ryddhau yn y pen draw.

Dywedodd Gwasanaeth Tân Henffordd a Chaerwrangon bod Hank yn "un cwsmer hapus" wedi iddo gael ei ryddhau.

Mae llun ohono gyda'i dafod allan ac yn edrych braidd yn wylaidd wedi denu sylw ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd un person: "This is not his first rodeo."

Ychwanegodd person arall: "Mae'n edrych yn llawn embaras."

Druan o Hank.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.