Rhai trigolion Pontardawe yn 'pryderu' am effaith bwyty McDonald's newydd yn yr ardal
Rhai trigolion Pontardawe yn 'pryderu' am effaith bwyty McDonald's newydd yn yr ardal
Bwyd cyflym, cyfleus.
Bron i unrhyw le yn y wlad a'r byd chi byth yn bell o fwyty McDonald's.
Siwrnai mae'n siwr i nifer ei wneud yn un o'r 89 o fwytai yng Nghymru.
Mae un newydd ar ddod i Gwm Tawe.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot 'di cymeradwyo'r cynllun a'r safle yma ym maes parcio Tesco ym Mhontardawe sy'n cael ei ffafrio.
Datblygiad fydd yn creu 120 o swyddi.
Falle mai "I'm loving it" medde'r slogan enwog ond a yw pawb yn rhannu'r cariad at y cynllun?
Bwyd brys am ba bris, felly.
Dafliad carreg o'r safle posibl mae canol tref Pontardawe lle mae 'na siopau, caffis, busnesau bach annibynnol.
Gydag un o gadwyni bwyd mwya'r byd yn dod i'r cwm yma beth yw'r farn yn lleol?
Bydden i'n erbyn e.
Sdim isio fe, mae digon o lefydd 'ma.
Bydda i ddim yn mynd.
Byddech chi'n mynd os mae'n dod i Bontardawe?
Na, fi'n mynd i Bontardawe ond ddim i big franchises.
Gydag Ysgol Gymunedol Cwm Tawe yng nghanol y dref mae 'na bryder hefyd am yr effaith ar iechyd plant.
Fi wedi sefyll yn ei erbyn e.
Y rheswm am hynny yw cyn i fi ddechre fel cynghorydd, nyrs o'n i.
O'n i'n gweithio gyda phobl oedd a trafferth gyda tewdra.
Dw i ddim yn credu bod y lleoliad yn iawn.
Fi 'di siarad a rhai busnese fan hyn.
Mae na bryder go iawn.
Mae busnesau ym Mhontardawe yn gwneud yr union un fwyd a McDonald's.
Ni yn pryderu.
Gyda chynnydd mewn bwydydd brasterog yn yr ardal a yw hynny'n codi chwys oer yn y gampfa leol?
Dw i'n meddwl mae'n beth da i swyddi pobl ifanc yn y pentre ond dw i'n meddwl mae'n wael i iechyd pobl yn y dref.
Bydd llawer mwy o bobl yn dod i'r gym achos byddan nhw'n bwyta mwy.
Byddan nhw'n endo up man hyn.
Sy'n beth da?
Yeah, i ni!
Yn ol McDonald's fydd y bwyty'n dod a buddsoddiad sylweddol i'r ardal ac maen nhw'n ymdrechu i fod yn gymydog da i'w cymunedau gan ddweud eu bod nhw'n edrych ymlaen at gydweithio gyda'r gymuned leol.
O ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot, wedi trafod hir mae'r Pwyllgor Cynllunio wedi cymeradwyo'r datblygiad gydag adroddiad yn dweud na fyddai'n cael unrhyw effaith annerbyniol ar yr ardal.
Fe fydd na fwau aur neu'r golden arches enwog ym Mhontardawe ond yn ol rhai trigolion, falle nid aur yw popeth melyn.