Newyddion S4C

Rhybuddion am dwyll parcio sy’n ymledu ar draws Cymru

19/08/2024
Peiriant parcio Sir Conwy

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn rhybuddio modurwyr i fod yn wyliadwrus am dwyll mewn meysydd parcio.

Dywedodd y llu eu bod wedi derbyn adroddiadau am godau QR ffug yn cael eu gosod ar beiriannau parcio ceir ar draws siroedd Conwy a Dinbych.

Daw yn sgil rhybudd gan asiantaeth foduro’r RAC yr wythnos diwethaf am dwyll tebyg mewn meysydd parcio yn Sir Benfro.

Dywedodd Heddlu’r Gogledd fod y math yma o dwyll yn cael ei adnabod fel “quishing” sydd yn arwain defnyddwyr at wefan ffug.

Dywedodd y llu: “Yn ogystal ag arian sy'n cael ei dalu i'r wefan hon, efallai y bydd manylion banc hefyd yn cael eu cadw yn ogystal â gwybodaeth sensitif fel cyfrineiriau, data ariannol, neu wybodaeth bersonol.

“Gellir defnyddio'r wybodaeth honno hefyd at ddibenion eraill, fel dwyn hunaniaeth a thwyll ariannol."

Ychwanegodd y Ditectif Ringyll Dros Dro Roheryn Evans o Dîm Troseddau Seiber Heddlu Gogledd Cymru: “Mae troseddwyr bob amser yn edrych am  ffyrdd o dwyllo pobl i ddarparu eu data personol, manylion banc neu gyfrineiriau.

“Fel gyda phob trosedd seiber arall, ystyriwch pwy sy’n gofyn i chi glicio ar god QR ac a yw’r cychwynnwr yn ddilys ai peidio.

“Peidiwch byth â darparu gwybodaeth bersonol oni bai ei bod yn ffynhonnell ddibynadwy."

Dyma ychydig o gyngor wrth ddefnyddio codau QR gan yr heddlu:

• Gwiriwch bob amser am godau QR (sticeri) yr ymyrrwyd â hwy cyn sganio. Gallai rhai codau QR mewn mannau agored (fel gorsafoedd a meysydd parcio) fod yn beryglus.

• Os oes gennych unrhyw amheuaeth, peidiwch â sganio cod a defnyddiwch beiriant chwilio i ddod o hyd i'r wefan swyddogol neu ap ar gyfer y sefydliad neu gwmni.

• Wrth sganio cod QR, defnyddiwch y sganiwr QR sydd wedi'i gynnwys yn eich camera, neu un sy'n dod gyda'ch ffôn, yn hytrach na defnyddio ap wedi'i lawrlwytho o siop ap.

• Os byddwch yn derbyn e-bost gyda chod QR ynddo, a bod gofyn i chi ei sganio, dylech fod yn ofalus gan ein bod yn gweld cynnydd yn y mathau hyn o ymosodiadau 'quiishing'.

  • Dylech bob amser wirio’ch cyfrifon banc yn rheolaidd a nodi unrhyw weithgaredd amheus i’ch banc ar unwaith.

    Llun: Cyngor Sir Conwy

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.