Menywod Tân Cymreig yn colli yn rownd derfynol y 100 pelawd
Mae menywod Tân Cymreig wedi colli i London Spirit yn rownd derfynol cystadleuaeth y 100 pelawd o flaen 22,000 o gefnogwyr ar faes Lord’s yn Llundain.
Dyma oedd y dorf uchaf am gêm yn y gystadleuaeth.
Fe sgoriodd Tân Cymreig 115 rhediad am wyth wiced yn eu 100 pelawd.
Mewn diweddglo hynod gyffrous roedd angen 10 rhediad o 11 pêl ar London Spirit i ennill.
Fe lwyddodd eu gwrthwynebwyr i gyrraedd y nod gyda Deepti Sharma yn taro chwech gyda dwy bêl yn weddill.
Mae tîm dynion Morgannwg wedi cyrraedd rownd derfynol y Cwpan Undydd ar ôl curo Swydd Warwick yng Ngerddi Sophia ddydd Sul.
Fe sgoriodd Morgannwg 247-9 yn eu 50 pelawd nhw.
Ar un adeg roedd Morgannwg yn 44-4 cyn i Dan Douthwaite daro 55 oddi ar 35 pêl.
Roedd Swydd Warwick i gyd allan am 208 yn eu batiad nhw ac felly fe wnaeth Morgannwg ennill o 39 rhediad.
Fe fydd Morgannwg yn chwarae yn erbyn Gwlad yr Haf yn y rownd derfynol yn Trent Bridge, Nottingham ddydd Sul 22 Medi.
Llun: X/TânCymreig