Newyddion S4C

Israel yn ‘ofalus o obeithiol’ am gadoediad yn Gaza

18/08/2024
Gaza

Mae swyddfa Prif Weinidog Israel wedi dweud eu bod nhw’n “ofalus o obeithiol” am gadoediad yn Gaza.

Ond dywedodd Hamas fod y gobeithion hyn yn “gamargraff”.

Mae’r Unol Daleithiau, Qatar a’r Aifft yn dweud eu bod nhw wedi cyflwyno cytundeb ar gyfer cadoediad i ryddhau gwystlon.

Mae Ysgrifennydd Gwladol yr UDA Antony Blinken yn hedfan i Israel ac mae disgwyl iddo gyfarfod gyda’r Prif Weinidog Benjamin Netanyahu.

Mae Hamas yn dweud nad oes cynnig wedi ei wneud.

Mae'r trafodaethau'n cael eu cynnal wrth i densiynau gynyddu yn y rhanbarth. 

Mae Iran wedi bygwth dial yn erbyn Israel ar ôl llofruddiaeth arweinydd Hamas Ismail Haniyeh yn Tehran ar 31 Gorffennaf.

Mae Washington wedi rhybuddio Iran i beidio â bwrw ymlaen ag unrhyw gamau dialgar yn erbyn Israel.

Dywedodd llefarydd y gallai gweithred o’r fath gael canlyniadau “cataclysmig”, yn enwedig i Iran.

Mae gweinidogion tramor y DU, Ffrainc, yr Almaen a’r Eidal wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd i gefnogi’r trafodaethau am gadoediad parhaus, gan annog pob ochr i osgoi unrhyw “weithredu cynyddol.”

Mae disgwyl i drafodaethau ar sut i weithredu’r cytundeb barhau yn gynnar yr wythnos nesaf, cyn i uwch swyddogion ailymgynnull yn Cairo, gyda’r nod o ddod â’r cytundeb i ben yn ddiweddarach yn yr wythnos yn Cairo.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.