Newyddion S4C

Dyn 58 oed wedi marw ar ôl 'neidio oddi ar y to' yn Ysbyty Treforys yn Abertawe

17/08/2024
Ysbyty Treforys

Mae dyn 58 oed wedi marw ar ôl iddo neidio oddi ar do yn Ysbyty Treforys yn Abertawe. 

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw am 23:44 nos Wener wedi adroddiadau fod claf yn yr ysbyty wedi gwneud ei ffordd i do'r adeilad. 

Cafodd swyddog arbenigol ei ddefnyddio er mwyn cyfathrebu gyda'r dyn o Bort Talbot. 

Ychydig wedi 03:20 fore Sadwrn, neidiodd y dyn oddi ar y to gan brofi anafiadau angheuol. 

Mae ymholiadau yn parhau er mwyn sefydlu holl amgylchiadau y digwyddiad. 

Mae'r llu wedi cyfeirio ei hun i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC). 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.